(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Cyflwynodd Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) (“y prif reolliadau ”) y cynllun Tir Gofal yng Nghymru. Cawsant eu diwygio gan Reoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 (“y rheoliadau diwygio”) (O.S. 1999/3337 (Cy.45)).
Cafodd y prif reoliadau a'r rhai diwygio eu gwneud yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd sydd bellach wedi'i diwygio a'i disodli. Mae'r rheoliadau presennol yn cael eu gwneud felly i ddiweddaru'r cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth Ewropeaidd a geir yn y prif reoliadau.