(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 50 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (“Deddf 2001”) sy'n ymwneud â dileu gwaharddiadau sy'n atal yr awdurdodau lleol rhag darparu llety ar gyfer personau a oedd mewn llety o'r fath ar 31 Mawrth 1993 (“achosion hawliau cadw”). Yng Nghymru yn unig y maent yn gymwys.
Mae rheoliad 2 yn darparu eithriadau rhag y dyletswyddau y mae adrannau 50(3) i (7) o Ddeddf 2001 yn eu gosod ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu ar gyfer pobl a oedd yn achosion hawliau cadw cyn y diwrnod a benodir i adran 50(1) ddod i rym. Mae'r eithriadau'n ymwneud â pherson nad oes ganddo hawl, mewn perthynas â'r diwrnod cyn y diwrnod penodedig, i gael cymhorthdal incwm, neu y mae ganddo hawl felly ond nid yn ôl y gyfradd hawliau cadw, neu berson sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer y swm a all gael ei adennill os yw awdurdodau penodol yn gyfrifol, o dan adran 50(6) o Ddeddf 2001, am daliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli cyn y diwrnod penodedig (“y trefniadau a oedd yn bodoli”) ac a fydd yn parhau nes y caiff gwasanaethau gofal cymunedol eu darparu. Mae'r swm y darperir ar ei gyfer yr un fath â'r swm y gellid ei adennill o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a rheoliadau sy'n gysylltiedig â hi os oedd y trefniadau a oedd yn bodoli yn drefniadau ar gyfer darparu llety gan yr awdurdod o dan Ran III o Ddeddf 1948 a bod y tâl yr oedd yr awdurdod yn ei roi am y trefniadau a oedd yn bodoli yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person i gael ei drin fel un sydd fel arfer yn preswylio at ddibenion adran 50 o Ddeddf 2001.