Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhwysir rheolau i gyfrifo'r symiau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy roi canran newydd ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglyn รข'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).