2001 Rhif 3909 (Cy.321)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.

(1)

Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Ionawr 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995

2.

Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 19953, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliad 3.

3.

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 95/45/EC”, ychwanegir y geiriau “and Directive 2001/50/EC” ar y diwedd4.

Diwygiadau canlyniadol

4.

(1)

Caiff rheoliad 3 o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 20005 ei hepgor.

(2)

Yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (3), caiff cyfeiriadau at Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, eu cymryd fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 a chan y rheoliadau hyn.

(3)

Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn cyfeirio atynt—

(a)

Diffiniad “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 19816;

(b)

Diffiniad “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 19847);

(c)

Diffiniad “colour” yn Rhan ll o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 19928;

(ch)

Diffiniad “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19959); a

(d)

Diffiniad “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 199610.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, sy'n gymwys i Brydain Fawr.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/45/EC ynghylch purdeb penodol er mwyn ymdrin â'r diwygiad i'r Gyfarwyddeb honno a wnaed gan Gyfarwyddeb 2001/50/EC o ran y manylebau ar gyfer carotenau cymysg a beta-caroten.

Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 yn Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996.

Nid oes arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.