Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
4 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym
1 Ionawr 2002
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Ionawr 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(3), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliad 3.
3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 95/45/EC”, ychwanegir y geiriau “and Directive 2001/50/EC” ar y diwedd(4).
4.—(1) Caiff rheoliad 3 o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000(5) ei hepgor.
(2) Yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (3), caiff cyfeiriadau at Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, eu cymryd fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 a chan y rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn cyfeirio atynt—
(a)Diffiniad “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(6);
(b)Diffiniad “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(7));
(c)Diffiniad “colour” yn Rhan ll o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(8);
(ch)Diffiniad “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9)); a
(d)Diffiniad “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(10).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, sy'n gymwys i Brydain Fawr.
Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/45/EC ynghylch purdeb penodol er mwyn ymdrin â'r diwygiad i'r Gyfarwyddeb honno a wnaed gan Gyfarwyddeb 2001/50/EC o ran y manylebau ar gyfer carotenau cymysg a beta-caroten.
Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 yn Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996.
Nid oes arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraff 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 (p.28) a diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 ohoni.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1995/3124 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/1799 (Cy. 124)
Cyfeirnod Cyfarwyddeb 2001/50/EC yw OJ Rhif L 190, 12.7.2001, t.14.
O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124
O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.
O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.
O.S. 1995/3187; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.; gweler hefyd O.S. 1999/1136