(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 93 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (“Deddf 1985”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau consesiynau teithio mewn perthynas â gwasanaethau cymwys (gwasanaethau bysiau lleol). Mae adran 93(7), sydd wedi'i diwygio gan baragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“Deddf 2000”) yn diffinio y categorïau o berson sydd â hawl i gonsesiynau o dan gynlluniau o'r fath. Mae adran 93(7)(f) yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pŵer i estyn y categorïau hynny.
Mae adrannau 145 a 146 o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ar gyfer consesiynau teithio gorfodol i'w darparu ar wasanaethau cymwys. Mae'r Ddeddf yn darparu bod y consesiynau:
(i)i fod ar gael mewn perthynas â siwrneiau y tu fewn i ardal awdurdodau consesiynau teithio unigol (cynghorau sir a bwdesistrefi sirol) yn unig;
(ii)i fod ar gael ar amserau penodol o'r dydd yn unig;
(iii)i fod ar gael yn unig ar gyfer rhai dros oedran pensiwn a'r anabl, fel y'u diffinnir yn adran 146;
(iv)i fod yn ostyngiad o hanner gwerth y tocyn.
Mae Adran 147 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i estyn yr hawl i gael y consesiynau a'u natur.
Effaith erthyglau 4, 5, a 6 o'r Gorchymyn hwn yw diwygio darpariaethau Deddf 2000 er mwyn:
(i)estyn yr hawl i gonsesiynau i gynnwys siwrneiau sy'n dechrau neu yn gorffen (neu yn dechrau ac yn gorffen) y tu allan i ardal awdurdod consesiynau teithio Cymreig, ond yn ei chyffiniau;
(ii)dileu y cyfyngiad ar yr amserau pryd y darprir consesiynau;
(iii)estyn yr hawl i ddynion rhwng 60 ac oedran pensiwn, gydag effaith o 1 Ebrill 2003;
(iv)estyn yr hawl i gymdeithion personau anabl y mae arnynt angen cymorth cydymaith er mwyn gallu teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr;
(v)estyn yr hawl i'r rhai sy'n dal trwyddedau a roddwyd gan awdurdodau Cymreig heblaw yr un y mae'r siwrnai yn digwydd o fewn ei ardal, ar yr amod bod y drwydded mewn ffurf a gymeradwywyd at y pwrpas hwn;
(vi)cynyddu maint y consesiwn er mwyn darparu teithio am ddim.
Mae Erthygl 2 yn gwneud diwygiadau i'r categorïau o berson sydd â'r hawl i gonsesiynau teithio o dan gynlluniau o dan adran 93 o Ddeddf 1985 fel y byddant, ynghyd â'r rhai a wnaed yn barod gan baragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf 2000, yn sicrhau cysondeb â'r rhai sy'n perthyn i gonsesiynau teithio gorfodol o dan adrannau 145 a 146 o Ddeddf 2000.