(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 1 Mawrth 2001, yn diddymu (rheoliad 26) ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, ddarpariaethau a gynhwyswyd o'r blaen yn Rheoliadau Porthiant 1995. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddebau a Phenderfyniad y Gymuned Ewropeaidd a bennir isod, ac yn darparu yn ôl yr angen ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a restrir isod.
2. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i anifeiliaid â ffermir ac anifeiliaid anwes.
3. At ddibenion adrannau 68(1) a 69(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (“y Ddeddf”) rhagnodir porthiant, deunyddiau porthiant, ychwanegion a rhag-gymysgeddau o ychwanegion yn rheoliad 3. Mae'n ofynnol i werthwyr y rhain roi i brynwyr “gosodiadau statudol” sy'n ymwneud â'u cyfansoddiad ac yn cynnwys gwybodaeth neu gyfarwyddiadau ynghylch eu storio, eu trafod a'u defnyddio, ac mae'n ofynnol iddynt eu marcio â'r wybodaeth honno.
4. Rhagnodir cynnwys gosodiadau statudol a datganiadau eraill gan reoliad 4 ac Atodlenni 4 a 5 a'u ffurf gan reoliad 5.
5. Cynhwysir darpariaethau pellach sy'n berthnasol i gosodiadau statudol yn rheoliadau 6 ac 8.
6. Rhagnodir cyfyngiadau ar yr amrywiadau mewn perthynas â cam-ddatganiadau mewn gosodiadau statudol (rheoliad 7 ac Atodlen 6).
7. Mae'r Rheoliadau yn gwneud y canlynol hefyd —
(a)darparu bod ystyron yn cael eu priodoli i enwau deunyddiau penodol, at ddibenion adran 70 o'r Ddeddf (sy'n creu gwarant ymhlyg bod deunydd a ddisgrifir ag enw y priodolwyd ystyr iddo yn unol â'r adran honno yn cyd-fynd â'r ystyr) (rheoliad 8);
(b)rhagnodi drwy ba ddull y mae'n rhaid pecynnu a selio porthiant cyfansawdd, ychwanegion a rhag-gymysgeddau (rheoliad 9);
(c)rheoleiddio'r dasg o roi deunyddiau porthiant mewn cylchrediad (rheoliad 10 ac Atodlen 2);
(ch)rheoleiddio'r dasg o roi mewn cylchrediad ac ar waith borthiant sy'n cynnwys ychwanegion ac ychwanegion y bwriedir eu hymgorffori mewn porthiant, a'r dasg o'u hymgorffori ynddynt (rheoliad 11 ac Atodlen 3);
(d)cyfyngu ar farchnata a defnyddio porthiant sy'n cynnwys cynhyrchion annymunol penodol a rhoi mewn cylchrediad a chymysgu cynhwysion sy'n cynnwys sylweddau o'r fath (rheoliad 12 ac Atodlen 7);
(dd)gwahardd gwerthu a defnyddio porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau penodol (rheoliad 13);
(e)cyfyngu ar farchnata a defnyddio ffynonellau protein a chyfansoddion nitrogenaidd di-brotein penodol mewn porthiant (rheoliad 14 ac Atodlen 8);
(f)gwahardd marchnata porthiant sy'n cymryd lle llaeth ac y mae'r haearn ynddo yn gostwng islaw lefelau penodedig (rheoliad 15);
(ff)gwahardd marchnata porthiant cyfansawdd y mae maint y lludw ynddo sy'n annhoddadwy mewn asid hydroclorig yn uwch na lefelau penodedig (rheoliad 16);
(g)rheoli marchnata porthiant a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol (porthiant dietetig) (rheoliad 17);
(ng)diwygio adran 66(1) o'r Ddeddf i ddarparu diffiniadau newydd (gyda darpariaethau canlyniadol) o “feeding stuff” a “premixture”, ac adran 66(2) (sy'n rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae deunydd i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf fel deunydd sy'n cael ei fewnforio neu ei werthu i'w ddefnyddio fel porthiant neu fel deunydd sy'n cael ei ddefnyddio fel porthiant) (rheoliad 18);
(h)diwygio adran 69 o'r Ddeddf o ran ei chymhwyso at borthiant sy'n cael ei fewnforio (rheoliad 19);
(i)darparu ar gyfer esemptiadau rhag rhai o ofynion y Rheoliadau (rheoliadau 20 ac 21);
(j)darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau y mae Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (rheoliad 22) yn sail gyfreithiol iddynt (ceir darpariaethau ynghylch tramgwyddau a chosbau mewn perthynas â thorri'r Rheoliadau hyn yn Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970);
(l)diwygio adran 74A o'r Ddeddf i ddarparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau mewn perthynas â materion y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy ac na fyddent fel arall yn dod o dan yr Adran honno (rheoliad 24);
(ll)gweud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999, Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 25 i 27); ac
(m)i weithredu Cyfarwyddeb 1999/79/EC, diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 drwy roi dull diwygiedig o ddadansoddi ar gyfer starts (y dull polarimetrig) yn lle'r hen ddull (rheoliad 25 hefyd).
8. Mae'r Rheoliadau yn gwneud mân newidiadau a newidiadau drafftio i'r Rheoliadau a ddisodlir. Mae'r prif newidiadau i'r Rheoliadau hynny fel a ganlyn —
(a)dilëir y cysyniad o anifeiliaid sy'n “prescribed” at ddibenion y diffiniad o “feeding stuff” yn adran 66(1) o'r Ddeddf a'i ddisodli yn y diffiniad hwnnw gan y cysyniad o “farmed creatures” (rheoliad 18);
(b)dilëir y ddarpariaeth yn y Rheoliadau a ddisodlir ar gyfer rhoi gosodiadau statudol ynghylch swmp-gyflenwadau o borthiant plaen yn ddiweddarach nag amser eu gwerthu;
(c)i weithredu Cyfarwyddeb 96/24/EC, 96/25/EC a 98/67/EC, dilëir y cysyniad o “straight feeding stuffs”, ac yn yr un modd dilëir yr holl reolau a oedd gynt yn gymwys i borthiant o'r fath. “Feed materials” yw'r cysyniad sy'n cymryd ei le ac mae'r Rheoliadau yn cynnwys rheolau manwl newydd ynghylch defnyddio, labelu a rhoi mewn cylchrediad ddeunyddiau o'r fath, ar eu pen eu hunain ac ar ôl eu hymgorffori mewn porthiant cyfansawdd. Mae Atodlen 2 yn cynnwys rhestr hollgynhwysfawr o ddeunyddiau porthi (gweler hefyd reoliad 10 a pharagraffau 7 i 13 o Ran I o Atodlen 4);
(ch)mae'r darpariaethau yn y Rheoliadau a ddisodlir ar gyfer marchnata ensymau a micro-organeddau penodol yr ymdrinnir â hwy gan Gyfarwyddeb 93/113/EEC yn gyfreithlon yng Nghymru wedi'u dileu;
(d)cynhwysir darpariaethau newydd sy'n rheoleiddio cymysgu ychwanegion söotechnegol, cymysgu micro-organeddau gydag ychwanegion söotechnegol ac ymgorffori ychwanegion mewn porthiant. Datgymhwysir y gofynion ynghylch rhoi ychwanegion mewn cylchrediad yn achos y rhai y bwriedir eu hallforio i drydedd wlad (rheoliad 11);
(dd)datgymhwysir gofynion penodol ynghylch marchnata ffynonellau protein mewn porthiant pan fwriedir eu hallforio i drydedd wlad (rheoliad 14);
(e)cyflwynir gofynion labelu newydd mewn perthynas â micro-organeddau, gan gynnwys micro-organeddau mewn porthiant a rhag-gymysgeddau (Atodlenni 4 a 5);
(f)ymgorfforir darpariaethau sy'n adlewyrchu'r ffaith bod amrywiol ychwanegion newydd neu ddibenion newydd neu wahanol ar gyfer ychwanegion wedi'u cymeradwyo mewn nifer o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd. Mewn rhai achosion mae'r darpariaethau hyn yn disodli darpariaethau a gynhwyswyd o'r blaen yn y Tabl i Atodlen 4 o'r Rheoliadau a ddisodlir (rheoliad 11 a Rhan IX o Atodlen 3).
9. Mae deddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd a weithredir gan y Rheoliadau hyn, neu y mae'r Rheoliadau hyn yn eu cydategu, yn cynnwys —
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC (OJ Rhif L270, 14.12.70, t.1. (OJ/SE Cyf. 18, t.4), ynghylch ychwanegion mewn porthiant (yn ddarostyngedig i eithriadau), fel y'u diwygiwyd neu eu cydategu gan y canlynol —
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/248/EEC (OJ Rhif L124, 18.5.91, t.1).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/249/EEC (OJ Rhif L124, 18.5.91, t.43).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/336/EEC (OJ Rhif L185, 11.7.91, t.31).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/508/EEC (OJ Rhif L271, 27.9.91, t.67).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/64/EEC (OJ Rhif L221, 6.8.92, t.51).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/113/EEC (OJ Rhif L16, 25.1.93, t.2).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/27/EEC (OJ Rhif L179, 22.7.93, t.5).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/55/EEC (OJ Rhif L206, 18.8.93, t.11).
Cyfarwyddeb y Cyngor 93/114/EC (OJ Rhif L334, 31.12.93, t.24).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 94/17/EC (OJ Rhif L105, 26.9.94, t.19).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 94/41/EC (OJ Rhif L209, 12.8.94, t.18).
Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC (OJ Rhif L332, 30.12.95, t.15).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/7/EC (OJ Rhif L51, 1.3.96, t.45).
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.35).
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/51/EC (OJ Rhif L235, 17.9.96, t.39).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 97/72/EC (OJ Rhif L351, 23.12.97, t.55).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2316/98 (OJ Rhif L289, 28.10.98, t.4).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2785/98 (OJ Rhif L347, 23.12.98, t.21).
Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/20/EC (OJ Rhif L80, 25.3.1999, t.20).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1594/ 1999 (OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2293/1999 (OJ Rhif L284, 6.11.1999, t.1).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2439/1999 (OJ Rhif L297, 18.11.1999, t.8).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2690/1999 (OJ Rhif L326, 18.12.1999, t.33).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 654/2000 (OJ Rhif L79, 30.3.2000, t.26).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 739/2000 (OJ Rhif L87, 8.4.2000, t.14).
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1353/2000 (OJ Rhif L155, 28.6.2000, t.15).
Yr eithriadau yw darpariaethau ynghylch dibenion heblaw porthiant yn Erthygl 9k.1, a darpariaethau yn ymwneud ag ychwanegion a ddosberthir fel gwrthfiotigau, cocsidiostadau a sylweddau meddyginiaethol eraill a hyrwyddwyr twf (yr ymdrinnir â'u gweithredu gan Reoliadau Porthiant (Cynhyrchion Söotechnegol) 1999 (O.S. 1999/1871));
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC (OJ Rhif L86, 6.4.79, t.30) ynghylch marchnata porthiant cyfansawdd, fel y'i diwygiwyd neu ei ategu gan y canlynol —
Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/509/EEC (OJ Rhif L126, 21.5.80, t.9).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC (OJ Rhif L126, 21.5.80, t.14).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/695/EEC (OJ Rhif L188, 22.7.80, t.23).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC (OJ Rhif L213, 21.7.82, t.27).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/957/EEC (OJ Rhif L386, 31.12.82, t.42).
Rheoliad y Cyngor 85/3768/EEC (OJ Rhif L362, 31.12.85, t.8).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 86/174/EEC (OJ Rhif L130,16.5.86, t.53).
Cyfarwyddeb y Cyngor 86/354/EEC (OJ Rhif L212, 2.8.86, p.27).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/235/EEC (OJ Rhif L102, 14.4.87, t.34).
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/44/EEC (OJ Rhif L27, 31.1.90, t.35).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/334/EEC (OJ Rhif L184, 10.7.91, t.27).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/357/EEC (OJ Rhif L193, 17.7.91, t.34).
Penderfyniad y Comisiwn 91/516/EEC (OJ Rhif L281, 9.10.91, t.23).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/87/EEC (OJ Rhif L319, 4.11.92, t.19).
Penderfyniad y Comisiwn 92/508/EEC (OJ Rhif L312, 29.10.92, t.36).
Cyfarwyddeb y Cyngor 93/74/EEC (OJ Rhif L237, 22.9.93, t.23).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 94/39/EEC (OJ Rhif L207, 10.8.94, t.20).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/9/EC (OJ Rhif L91, 22.4.95, t.35).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/10/EC (OJ Rhif L91, 22.4.95, t.39).
Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC (OJ Rhif L332, 30.12.95, t.15).
Penderfyniad y Comisiwn 95/274/EC (OJ Rhif L167,18.7.95, t.24).
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/24/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.33).
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.35).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 97/47/EC (OJ Rhif L211, 5.8.97, t.45).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EC (OJ Rhif L261, 24.9.98, t.10).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/87/EC (OJ Rhif L318, 27.11.98, t.43).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/78/EC (OJ Rhif L209, 7.8.1999, t.22);
(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 82/471/EEC (OJ Rhif L213, 21.7.82, t.8) ynghylch cynhyrchion penodol a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd gan y canlynol —
Cyfarwyddeb y Comisiwn 85/509/EEC (OJ Rhif L314, 23.11.85, t.25).
Rheoliad y Cyngor 85/3768/EEC (OJ Rhif L362, 31.12.85, t.8).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 85/530/EEC (OJ Rhif L312, 7.11.86, t.39).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 88/485/EEC (OJ Rhif L239, 30.8.88, t.36).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 89/520/EEC (OJ Rhif L270, 19.9.89, t.13).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 90/439/EEC (OJ Rhif L227, 21.8.90, t.33).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/26/EEC (OJ Rhif L179, 22.7.93, t.2).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/56/EEC (OJ Rhif L206, 18.8.93, t.13).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/33/EEC (OJ Rhif L167, 18.7.95, t.17).
Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC (OJ Rhif L332, 30.12.95, t.15).
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.35).
Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EEC (OJ Rhif L261, 24.9.98, t.10).
Cyfarwyddeb y Cyngor 99/20/EC (OJ Rhif L80, 25.3.99, t.20);
(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.35) ar gylchredeg deunyddiau porthiant, yn diwygio Cyfarwyddebau 70/524/EEC, 74/63/EEC, 82/471/EEC, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 77/101/EEC, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EC (OJ Rhif L261, 24.4.98, t.10);
(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 99/29/EC (OJ Rhif L115, 4.5.99, t.32) ynghylch sylweddau a chynhyrchion annymunol mewn maethiad anifeiliaid; ac
(dd)Cyfarwyddeb y Comisiwn 99/79/EC (OJ Rhif L209, 7.8.99, t.23) yn diwygio trydedd Gyfarwyddeb y Comisiwn 72/199/EEC dyddiedig 27 Ebrill 1972 yn sefydlu dulliau'r Gymuned o ddadansoddi ar gyfer rheoli porthiant yn swyddogol.
10. Mae arfarniad o effaith wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae copi wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau ychwanegol ar gais i'r Asiantaeth Safonau Bwyd – Cymru, Llawr 1af, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.