2001 Rhif 343 (Cy.15)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1), (3), (6) a (7), 70(1), 74(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli'r buddiannau perthnasol, a chan ei fod wedi'i ddynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—