Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.
Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau fel bod taliad ex-gratia o £10,000 sy'n cael ei wneud gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn yn cael ei anwybyddu, at ddibenion asesu cyfalaf preswylydd, os yw'r taliad yn cael ei wneud yn sgil carcharu neu gaethiwo unrhyw rai o'r canlynol gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd —
y preswylydd;
partner y preswylydd;
priod marw y preswylydd; neu
priod marw partner y preswylydd.