Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“Gorchymyn 1993”) o'i gymhwyso at Gymru. Mae'n addasu'r gofynion sy'n gymwys i blanhigion penodol sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod ac yn symud oddi fewn iddo, o fewn yr ystod a ganiateir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/51/EEC (O.J. L205, 17.8.93, t.24). Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu rheolau dros symudiadau planhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill drwy barth gwarchod, a thros symudiadau'r cyfryw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod o'r fath ac yn symud oddi fewn iddo.

Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, a ddaw i rym ar 1 Awst 2001—

(a)mae'n ofynnol i blanhigion penodol sy'n tarddu ac yn symud o fewn parthau gwarchod a bennwyd fod â phasbort i'w canlyn (erthygl 2(2));

(b)terfynir yr esemptiad rhag gofynion arbennig perthnasol sy'n gymwys i blanhigion penodol a bennir yn Rhan B o Atodlen 4 (erthygl 2(2));

(c)gellir rhoi awdurdod i gyhoeddi pasbortau planhigion i fusnesau, unigolion neu gyrff eraill ar sail arolwg boddhaol (erthygl 2(3)).

Mae'r angen am basport planhigion a osodir gan y Gorchymyn hwn yn gyson â chyfundrefn basport y Gymuned a weithredwyd yn y prif Orchymyn yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC (ar ôl ei ddiwygio a'i atodi gan yr offerynnau a restrir yn Atodlen 16 i'r prif Orchymyn) (O.J. L26, 31.1.77, t.20).