(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“Gorchymyn 1993”) o'i gymhwyso at Gymru. Mae'n addasu'r gofynion sy'n gymwys i blanhigion penodol sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod ac yn symud oddi fewn iddo, o fewn yr ystod a ganiateir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/51/EEC (O.J. L205, 17.8.93, t.24). Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu rheolau dros symudiadau planhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill drwy barth gwarchod, a thros symudiadau'r cyfryw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod o'r fath ac yn symud oddi fewn iddo.

Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, a ddaw i rym ar 1 Awst 2001—

(a)

mae'n ofynnol i blanhigion penodol sy'n tarddu ac yn symud o fewn parthau gwarchod a bennwyd fod â phasbort i'w canlyn (erthygl 2(2));

(b)

terfynir yr esemptiad rhag gofynion arbennig perthnasol sy'n gymwys i blanhigion penodol a bennir yn Rhan B o Atodlen 4 (erthygl 2(2));

(c)

gellir rhoi awdurdod i gyhoeddi pasbortau planhigion i fusnesau, unigolion neu gyrff eraill ar sail arolwg boddhaol (erthygl 2(3)).

Mae'r angen am basport planhigion a osodir gan y Gorchymyn hwn yn gyson â chyfundrefn basport y Gymuned a weithredwyd yn y prif Orchymyn yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC (ar ôl ei ddiwygio a'i atodi gan yr offerynnau a restrir yn Atodlen 16 i'r prif Orchymyn) (O.J. L26, 31.1.77, t.20).