O dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”), mae'n ofynnol i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan weithrediaethau y mae'n rhaid iddynt fod yn un o'r mathau a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu mewn rheoliadau o dan adran 11(5). Mae adran 25 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithrediaeth. Mae adran 31 o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod lleol y mae'r adran honno'n gymwys iddo lunio cynigion ar gyfer trefniadau amgen o fath penodol a ganiateir gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys gofynion ynglŷn â'r cynigion hynny ar gyfer trefniadau amgen.
Mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ac mae'r ymagwedd y dylai'r awdurdod ei chymryd at yr ymgynghori wedi'i nodi yn rheoliad 3(2). Mae rheoliad 3(4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod benderfynu pa fath o drefniadau amgen i'w gynnwys yn ei gynigion ac i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 3(5) yn pennu'r materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn y cynigion ac mae rheoliad 3(6) yn ei gwneud yn ofynnol bod copi o'r cynigion a'r wybodaeth sy'n cyd-fynd â hwy yn cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r gofyniad i awdurdod weithredu ei gynigion ar gyfer trefniadau amgen yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion hynny wedi'i nodi yn rheoliad 3(7).