- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth o'r awdurdod (sy'n gorfod bod yn un o'r maeth a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf), oni bai bod y swyddogaethau hynny wedi'u pennu fel swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodol yn unig.
Mae Rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw'r swyddogaethau sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 1 (“swyddogaethau Atodlen 1”) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Mae rheoliad 2(2) yn darparu nad yw swyddogaeth gosod amodau, terfynau, cyfyngiadau neu delerau eraill ar unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swyddogaethau o dan Ddeddf leol (oni bai bod y gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad wedi'u caniatáu neu wedi'u rhoi yn yr achos hwnnw gan weithrediaeth awdurdod), i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Mae Rheoliad 2(3) yn darparu nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi pan dorrir cymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swyddogaethau o dan Ddeddf leol (oni bai bod y gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad wedi'u caniatáu neu wedi'u rhoi yn yr achos hwnnw gan weithrediaeth awdurdod), nac ym mha fodd y dylid eu gorfodi, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Darperir hefyd nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi yn erbyn toriadau eraill, mewn perthynas â materion y dylai cais fod wedi'i wneud mewn perthynas â hwy am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod os gallai'r gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad fod wedi'u caniatáu wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1.
Mae rheoliad 2(4) yn darparu nad yw swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad y mae rheoliad 2(2) yn gymwys iddo i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Mae rheoliad 2(5) yn darparu nad yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) na swyddogaeth diwygio, diddymu, neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Mae rheoliad 2(6) yn darparu nad yw swyddogaeth penderfynu ar swm amrywiol lwfansau sy'n daladwy i aelodau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”), yn ôl pa gyfraddau y telir taliadau penodol o dan y Ddeddf honno fel lwfansau, y symiau sy'n daladwy o dan gynlluniau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a chyfraddau'r taliadau o dan gynlluniau o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Darperir hefyd nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swm unrhyw dâl o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Effaith rheoliad 2(7) yw atal awdurdod rhag trefnu i'r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 2(5) neu (6) (a) i (c) gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog. (Gall swyddogaethau eraill y cyfeirir atynt yn rheoliad 2 nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod o dan drefniadau o dan adran 101 o Ddeddf 1972.)
Gydag un eithriad, mae rheoliad 2(8) yn darparu nad yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 a phenodi Pwyllgorau o dan adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Mae'r eithriad yn ymwneud â darpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a all ganiatáu i weithrediaeth awdurdod wneud penodiadau o dan adran 102 o Ddeddf 1972.
Onid yw hynny'n cael ei ganiatáu gan ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau, mae paragraff (9) o reoliad 2 yn darparu mai dim ond awdurdod a gaiff gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sydd, yn rhinwedd unrhyw Ddeddf Seneddol neu is-ddeddfwriaeth ac nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
Mae rheoliad 3(1) yn darparu y caiff y swyddogaethau a grybwyllir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly).
Mae paragraffau (1) i (3) o reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'u gweithrediaeth. Maent hefyd yn gymwys i gynlluniau a strategaethau eraill y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo yn fater ar gyfer penderfyniad yr awdurdod eu hunain yn unol â rheoliad 5(1). Mae paragraff (4) o Reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros ddiwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu'r cynlluniau a'r strategaethau a bennir yn Atodlen 3. Mae paragraffau (5) i (7) o reoliad 4 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â swyddogaethau sy'n ymwneud â gwaredu tir tai awdurdod.
Os nad yw agwedd ar swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), (4) neu (5) o reoliad 4 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod, effaith paragraff (8) o'r rheoliad hwnnw yw na chaiff yr awdurdod drefnu iddi gael ei chyflawni gan unrhyw un o bwyllgorau, is-bwyllgorau neu swyddogion yr awdurdod.
Mae paragraffau (9) i (11) o reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â'r dreth gyngor, praeseptau a chyfrifiadau eraill o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. I'r graddau y mae'r swyddogaeth yn ymwneud â pharatoi a diwygio amcangyfrifon a symiau eraill i gael eu hystyried gan awdurdod, mae'r swyddogaeth i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae agweddau eraill ar y swyddogaeth, megis pennu swm treth gyngor am flwyddyn ariannol, i fod yn gyfrifoldeb i'r awdurdod.
Mae rheoliad 5(1) ac atodlen 4 yn pennu'r amgylchiadau lle nad yw swyddogaethau penodol, a fyddai fel arall yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath. Rhestrir yr amgylchiadau yng ngholofn (2) o Atodlen 4, a'r swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy yng ngholofn (1). Darperir eithriad yn rheoliad 5(2) ar gyfer dyfarniadau penodol y mae angen eu gwneud ar frys. Yn yr achosion hyn, dim ond gyda chytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan gadeirydd pwyllgor drosolygu a chraffu perthnasol (a ddiffinnir yn rheoliad 5(3)), neu, o dan amgylchiadau penodedig, cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan gadeirydd neu is-gadeirydd yr awdurdod y gall y dyfarniad gael ei wneud gan weithrediaeth yr awdurdod. Mae rheoliad 5(4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo gyflwyno adroddiad i'r awdurdod ar y camau a gymerwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: