Rhagolygol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi cyfle i'r cyhoedd fynd i gyfarfodydd gweithrediaethau awdurdodau lleol a'u pwyllgorau a chyfle iddynt weld eu penderfyniadau a'u dogfennau. Yn ychwanegol, maent yn ymdrin hefyd â'r cyfle i weld gwybodaeth ynghylch penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan gyd-pwyllgorau awdurdodau lleol pan yw'r rhain yn cynnwys aelodau gweithrediaethau yn unig ac yn cyflawni swyddogaeth gweithrediaeth.

O dan drefniadau gweithrediaeth bydd aelodau unigol yn gallu gwneud penderfyniadau gweithrediaeth ac felly mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd ynghylch y cyfle i weld dogfennau pan fydd penderfyniadau gweithrediaeth yn cael eu gwneud gan aelodau unigol.

Egwyddor gyffredinol y Rheoliadau yw bod y cyhoedd yn cael y cyfle i fynd i gyfarfodydd, ac i weld dogfennau a phenderfyniadau pan fydd gweithrediaeth neu bwyllgor awdurdod lleol neu unigolyn am wneud “penderfyniad gweithrediaeth”. Diffinnir y term “penderfyniad gweithrediaeth” yn rheoliad 2.

Mae Rhan I o'r Rheoliadau yn cynnwys deunydd rhagarweiniol a diffiniadau o'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rhan II yn cynnwys materion cyffredinol sy'n ymwneud â phob penderfyniad gweithrediaeth. Yn benodol mae rheoliadau 3 a 4 yn darparu (yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig) fod rhaid i gyfarfodydd gweithrediaethau awdurdodau lleol gael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae'r rheolau ynghylch y cyfle i weld agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd gweithrediaethau wedi'u nodi yn rheoliad 5.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn pennu, pan fydd penderfyniad gweithrediaeth yn cael ei gofnodi, fod rhaid nodi'r rhesymau dros y penderfyniad, pa bryd y gwnaed y penderfyniad, manylion unrhyw wrthdrawiad buddiannau neu unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd. Mae'r darpariaethau ynghylch cofnodi yn gymwys i benderfyniadau gweithrediaeth sy'n cael eu gwneud ar y cyd, neu gan aelodau unigol.

Yn rheoliad 8 ceir darpariaethau sy'n ymwneud ag archwilio dogfennau yn dilyn penderfyniadau gweithrediaeth. Mae gofynion ynghylch archwilio papurau cefndir yn rheoliad 9.

Yn Rhan III rhoddir hawliau ychwanegol i aelodau awdurdodau lleol a phwyllgorau trosolygu a chraffu mewn perthynas â chael cyfle i weld gwybodaeth. Mae hawliau ychwanegol i aelodau yn gyffredinol wedi'u cynnwys yn rheoliad 10. Mae safbwynt y gyfraith gyffredin ynghylch “yr angen i gael gwybod” yn cael ei diogelu. Mae rheoliad 11 yn nodi hawliau ychwanegol i aelodau pwyllgorau trosolygu a chraffu mewn perthynas â'r penderfyniadau y maent yn craffu arnynt. O dan amgylchiadau penodol gall yr aelodau hyn gael cyfle i weld gwybodaeth esempt neu gyfrinachol berthnasol. Nid oes dim yn y rheoliadau hyn yn caniatáu datgelu gwybodaeth o'r fath gan aelodau pwyllgorau trosolygu a chraffu.

Mae Rhan IV yn cynnwys darpariaethau cyffredinol pellach ynghylch gwybodaeth. Mae rheoliad 12 yn pennu gwybodaeth ychwanegol benodol am ei drefniadau gweithrediaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol drefnu iddi fod ar gael. Yn rheoliad 13 ceir darpariaethau sy'n nodi sut y bydd awdurdod lleol yn rhoi cyfle i'r cyhoedd archwilio dogfennau. Mae rheoliad 14 yn creu tramgwyddau.