(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Yr awdurdodau perthnasol cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu.

Mae'n rhaid i god ymdddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cyhoeddi cod ymddygiad enghreifftiol i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Mae'r cod ymddygiad enghreifftiol mewn tair ran.

Mae Rhan I o'r cod yn ymdrin â dehongli.

Mae Rhan II o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i aelodau ac aelodau cyfetholedig gadw'r cod, ynghyd â materion ymddygiad sy'n ymwneud â hybu cydraddoldeb a pharch at eraill, atebolrwydd a bod yn agored, dyletswydd aelodau ac aelodau cyfetholedig i gynnal y gyfraith, anhunanoldeb a stiwardiaeth, gwrthrychedd a gwedduster ac uniondeb.

Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan gaiff aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater a phan fydd rhaid iddynt ystyried bod ganddynt fuddiant o'r fath. Mae'r cod yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan ddylid datgelu buddiant personol, yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholedig gofrestru buddiannau o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan adran 81(1) o'r Ddeddf ac, os yw'n gymwys, i dynnu'n ôl rhag ystyried y mater.

Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin hefyd â chofrestru rhoddion a lletygarwch.