(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru. Ymwneud y mae'r ymchwiliadau hyn ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru os oes honiad wedi'i wneud neu os gallai fod yna achos o fethu ag ymdrin â chod ymddygiad awdurdod.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso adrannau 60 (Cynnal ymchwiliadau), 61 (Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau), 62 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) a 63 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) at ymchwiliadau safonau. Mae'n cymhwyso'r adrannau hyn (gydag addasiadau mewn rhai achosion) at waith Comisiynydd Lleol yng Nghymru.
Mae Erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 o'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1), (4) a (5), 61, 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69.
Mae Erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(6), 62(4) a 63(2) at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69 yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2. Mae'r addasiadau'n ymwneud â sut y caiff y darpariaethau eu cymhwyso at Gymru.
Mae Erthygl 4, drwy addasu darpariaethau adran 32(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, sy'n gysylltiedig â datgeliadau gan Gomisiynydd Lleol, yn datgymhwyso'r adran honno mewn perthynas ag ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000.
Yn rhinwedd Erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau personau a ddynodir gan Gomisiynydd Lleol mewn perthynas â swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.