xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.

Mae adran 53(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod perthnasol, sydd, yng Nghymru, yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau heddlu ond nid cynghorau cymuned, sefydlu pwyllgor safonau sydd i gael y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan honno o'r Ddeddf.

O dan adran 53(11) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch (ymhlith pethau eraill) maint, aelodaeth a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru, heblaw awdurdodau heddlu, a maint, aelodaeth a thrafodion unrhyw is-bwyllgorau a sefydlir o dan adran 56 o'r Ddeddf.

Mae rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â maint ac aelodaeth pwyllgor ac is-bwyllgorau safonau ac mae rheoliad 12 yn darparu nad oes unrhyw ofyniad ynghylch cydbwysedd gwleidyddol i fod yn gymwys iddynt.

Mae rheoliadau 13, 14, 15, 16 a 17 yn darparu ar gyfer penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliadau 18, 19, 20 ac 21 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfnod swydd aelodau pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau a'u hailbenodi.

Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swydd cadeirydd ac is-gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor safonau ac mewn perthynas â phleidleisio mewn cyfarfodydd.

Mae rheoliadau 24 a 25 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chworwm yng nghyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau, mynychder y cyfarfodydd a phresenoldeb swyddog monitro'r awdurdod neu gynrychiolydd i'r swyddog monitro.

Mae rheoliad 26 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliadau 28 a 29 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chadw cofnod o'r trafodion ac mewn perthynas â chylch gwaith pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau trosiannol ynghylch penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.