Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru (“y cod ymddygiad”).
Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu.
Y gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yw'r rhai sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad o weithwyr cyflogedig mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 82(8) o'r Ddeddf.
Yn rhinwedd adran 82(7) o'r Ddeddf, bernir bod telerau penodi neu amodau cyflogi gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol y mae'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yn ymgorffori'r cod ymddygiad a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.