(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) mae'n ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac aelodau cyfetholedig sy'n gorfod ymgorffori unrhyw ddarpariaethau gorfodol o unrhyw god ymddygiad enghreifftiol a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf.

Mae adran 81(1) a (2) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i'r swyddog monitro ym mhob awdurdod perthnasol sefydlu a chadw cofrestr o fuddiannau aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod a bod darpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol sy'n gymwysadwy i bob awdurdod perthnasol yn gorfod ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholediog pob awdurdod gofrestru unrhyw fuddiannau ariannol ac eraill a bennir yn y darpariaethau gorfodol yng nghofrestr yr awdurdod hwnnw.

O dan adran 81(3) a (4) o'r Ddeddf rhaid i'r darpariaethau gorfodol hynny ei gwneud yn ofynnol hefyd i aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol sydd â buddiant o'r fath ei ddatgelu cyn cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod sy'n berthnasol i'r buddiant a gwneud darpariaeth i atal yr aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod y mae'r buddiant a ddatgelwyd yn berthnasol iddo neu i gyfyngu ar y rhan y mae'n ei chymryd ynddo.

Mae adran 81(4) o'r Ddeddf yn darparu nad yw unrhyw gyfranogiad gan aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol mewn unrhyw fusnes a waherddir gan y darpariaethau gorfodol yn fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod os yw'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi gweithredu yn unol â gollyngiad rhag y gwaharddiad a gafodd ei ganiatáu gan bwyllgor safonau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (5).

Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff pwyllgorau safonau'r awdurdodau perthasol ganiatáu gollyngiadau o'r fath odanynt.