2001 Rhif 2276 (Cy.166)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 49(2) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;

  • ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod hwnnw ond sydd—

    1. (a)

      yn aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r awdurdod, neu

    2. (b)

      yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,

  • ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; ac

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

    1. (a)

      cyngor sir,

    2. (b)

      cyngor bwrdeistref sirol,

    3. (c)

      cyngor cymuned,

    4. (ca)

      F1cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1),

    5. (ch)

      F2awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, a

    6. (d)
      awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19953.

Yr egwyddorion sy'n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol3.

Mae'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Annotations:
Commencement Information

I3Ergl. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENYR EGWYDDORION

Erthygl 3

Anhunanoldeb

1.

Rhaid i aelodau weithredu er lles y cyhoedd yn unig. Rhaid iddynt beidio byth â defnyddio'u safle fel aelodau er mantais amhriodol iddynt eu hunain neu er mantais neu anfantais amhriodol i eraill.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. para. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Gonestrwydd

2.

Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy'n berthnasol i'w dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy'n diogelu buddiannau'r cyhoedd.

Annotations:
Commencement Information

I5Atod. para. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Uniondeb a Gwedduster

3.

Rhaid i aelodau beidio â'u rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn bwrw amheuaeth ar eu huniondeb. Rhaid i aelodau osgoi ymddygiad sy'n ymddangos felly bob adeg.

Annotations:
Commencement Information

I6Atod. para. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Dyletswydd i Gynnal y Gyfraith

4.

Rhaid i aelodau weithredu i gynnal y gyfraith, a gweithredu bob amser yn unol â'r ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd wedi'i rhoi iddynt.

Annotations:
Commencement Information

I7Atod. para. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Stiwardiaeth

5.

Wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau rhaid i aelodau sicrhau bod adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n gyfreithlon ac yn ddoeth.

Annotations:
Commencement Information

I8Atod. para. 5 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Gwrthrychedd wrth wneud Penderfyniadau

6.

Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gynnwys gwneud penodiadau, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon a manteision, rhaid i aelodau wneud penderfyniadau ar sail rhagoriaeth. Er bod rhaid i aelodau roi sylw i gyngor proffesiynol swyddogion a gall fod yn briodol iddynt roi sylw i farn eraill, gan gynnwys eu grwpiau gwleidyddol, eu cyfrifoldeb hwy yw penderfynu pa safbwynt i'w arddel ac, os yw'n briodol, sut i bleidleisio ar unrhyw fater.

Annotations:
Commencement Information

I9Atod. para. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Cydraddoldeb a Pharch

7.

Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau gyda sylw dyladwy i'r angen i hybu cyfle cyfartal i bawb, ni waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.

Annotations:
Commencement Information

I10Atod. para. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Bod yn Agored

8.

Rhaid i aelodau fod mor agored â phosibl ynghylch eu holl weithredoedd a gweithredoedd eu hawdurdod. Rhaid iddynt geisio sicrhau bod datgeliadau gwybodaeth yn cael eu cyfyngu yn unol â'r gyfraith yn unig.

Annotations:
Commencement Information

I11Atod. para. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Atebolrwydd

9.

Mae'r aelodau'n atebol i'r etholwyr ac i'r cyhoedd yn gyffredinol am eu gweithredoedd ac am sut y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau fel aelod. Rhaid iddynt fod yn barod i ildio i unrhyw archwiliadau sy'n briodol ar gyfer eu cyfrifoldebau.

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. para. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

Rhoi Arweiniad

10.

Rhaid i aelodau hybu a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad ac esiampl fel y byddant yn hybu hyder cyhoeddus yn eu rôl ac yn yr awdurdod. Rhaid iddynt barchu didueddwch ac uniondeb swyddogion statudol yr awdurdod a chyflogeion eraill yr awdurdod.

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. para. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 49(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, bennu'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol (a ddiffinnir yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yng Nghymru.

Mae awdurdodau o'r fath yn cynnwys (ymhlith eraill) cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, ond nid ydynt yn cynnwys awdurdodau heddlu.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r egwyddorion perthnasol.