xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 3
1. Rhaid i aelodau weithredu er lles y cyhoedd yn unig. Rhaid iddynt beidio byth â defnyddio'u safle fel aelodau er mantais amhriodol iddynt eu hunain neu er mantais neu anfantais amhriodol i eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
2. Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy'n berthnasol i'w dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy'n diogelu buddiannau'r cyhoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
3. Rhaid i aelodau beidio â'u rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn bwrw amheuaeth ar eu huniondeb. Rhaid i aelodau osgoi ymddygiad sy'n ymddangos felly bob adeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
4. Rhaid i aelodau weithredu i gynnal y gyfraith, a gweithredu bob amser yn unol â'r ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd wedi'i rhoi iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
5. Wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau rhaid i aelodau sicrhau bod adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n gyfreithlon ac yn ddoeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
6. Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gynnwys gwneud penodiadau, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon a manteision, rhaid i aelodau wneud penderfyniadau ar sail rhagoriaeth. Er bod rhaid i aelodau roi sylw i gyngor proffesiynol swyddogion a gall fod yn briodol iddynt roi sylw i farn eraill, gan gynnwys eu grwpiau gwleidyddol, eu cyfrifoldeb hwy yw penderfynu pa safbwynt i'w arddel ac, os yw'n briodol, sut i bleidleisio ar unrhyw fater.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
7. Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau gyda sylw dyladwy i'r angen i hybu cyfle cyfartal i bawb, ni waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
8. Rhaid i aelodau fod mor agored â phosibl ynghylch eu holl weithredoedd a gweithredoedd eu hawdurdod. Rhaid iddynt geisio sicrhau bod datgeliadau gwybodaeth yn cael eu cyfyngu yn unol â'r gyfraith yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
9. Mae'r aelodau'n atebol i'r etholwyr ac i'r cyhoedd yn gyffredinol am eu gweithredoedd ac am sut y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau fel aelod. Rhaid iddynt fod yn barod i ildio i unrhyw archwiliadau sy'n briodol ar gyfer eu cyfrifoldebau.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)
10. Rhaid i aelodau hybu a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad ac esiampl fel y byddant yn hybu hyder cyhoeddus yn eu rôl ac yn yr awdurdod. Rhaid iddynt barchu didueddwch ac uniondeb swyddogion statudol yr awdurdod a chyflogeion eraill yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)