2. Yn y Gorchymyn hwn—
mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;
ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod hwnnw ond sydd—
yn aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r awdurdod, neu
yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,
ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; ac
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
cyngor sir,
cyngor bwrdeistref sirol,
cyngor cymuned,
[F1cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1),]
[F2awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, a]
awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 2 wedi eu mewnosod (5.8.2022) gan Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/805), erglau. 1(2), 2
F2Geiriau yn ergl. 2 wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 55
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler ergl. 1(1)