Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai4
1
Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni—
a
bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;
b
bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;
c
bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;
ch
bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 sy'n gymwys iddo, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar y safle, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon;
d
bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei angen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth am yr awdurdodiad o dan reoliad 8(2)(a) o'r Rheoliadau hyn.
2
Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi rhif penodol i'r safle.