Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer agweddau penodol ar gynllun newydd o dan Ran IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”) ar gyfer adfer tir halogedig.

Mae Rheoliadau 2 a 3, ac Atodlen 1, yn nodi'r safleoedd hynny (a elwir “safleoedd arbennig”) y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi'r cynllun ar eu cyfer. Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r cynllun yn achos unrhyw fath arall o safle.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys “hysbysiadau adfer” a chyflwyno copïau ohonynt, hynny yw, hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu Asiantaeth yr Amgylchedd gan bennu'r hyn sydd i'w wneud o ran gwaith adfer a'r amser ar gyfer gweithredu.

Mae Rheoliad 6, ac Atodlen 2, yn darparu ar gyfer yr iawndal sydd i'w dalu yn unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu'n ymuno i roi, yr hawliau mynediad etc. y mae eu hangen i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer.

Mae Rheoliadau 7 i 14 yn darparu ynglŷn ag apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn sydd i'w dilyn.

Mae Rheoliad 15, ac Atodlen 3, yn rhagnodi manylion y materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu rhoi ar gofrestr a gedwir gan yr awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Paratowyd asesiad rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.