(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 yn diddymu Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996 O.S. 1996/696 (fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2001, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r CE (fel y'u pennir yn Atodlenni 1 a 2) ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau—

(i)

yn dynodi awdurdodau at ddibenion gorfodi Rheoliadau'r CE (rheoliad 3);

(ii)

yn diffinio “medium dry” (“gweddol sych”) at ddibenion labelu a disgrifio (rheoliad 4);

(iii)

yn pennu'r amrywogaethau o winwydd sydd wedi'u dosbarthu ar gyfer cynhyrchu gwin (gan gynnwys gwin o safon psr (wedi'i gynhyrchu mewn rhanbarthau penodedig)) yng Nghymru (rheoliad 5);

(iv)

yn pennu'r amodau ar gyfer defnyddio mynegiadau daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd (rheoliad 6);

(v)

yn darparu ar gyfer pwerau archwilio a gorfodi (rheoliad 7);

(vi)

yn awdurdodi rheolau ar symud cynhyrchion y sector gwin (rheoliadau 8 a 9);

(vii)

yn darparu ar gyfer adolygiadau o waharddiadau etc. ar symud cynhyrchion y sector gwin a hysbysu hawliau er cael adolygiad (rheoliad 10);

(viii)

yn rhyddhau swyddogion awdurdodedig o atebolrwydd personol am weithredoedd a gyflawnir ganddynt wrth weithredu'r Rheoliadau (rheoliad 11);

(ix)

yn rhoi pwerau mewn perthynas â dadansoddi ac archwilio samplau i lysoedd y dygir achosion ger eu bron (rheoliad 12);

(x)

yn pennu'r rhanbarthau yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu gwinoedd o safon psr (rheoliad 13);

(xi)

yn pennu'r cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol, yr uchafswm y gellir ei gynhyrchu am bob hectar a'r prawf dadansoddol wrth gynhyrchu gwin o safon psr ac yn caniatáu cynhyrchu gwin o'r fath mewn ardaloedd sydd yn union gyfagos at y rhanbarthau penodedig ac yn dynodi'r corff cymwys i ymdrin â gwin o'r fath (rheoliadau 14 i 18); a

(xii)

yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau ac yn darparu amddiffyniadau (rheoliadau 19 i 23).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau.