Search Legislation

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 yn diddymu Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996 O.S. 1996/696 (fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2001, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r CE (fel y'u pennir yn Atodlenni 1 a 2) ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau—

(i)yn dynodi awdurdodau at ddibenion gorfodi Rheoliadau'r CE (rheoliad 3);

(ii)yn diffinio “medium dry” (“gweddol sych”) at ddibenion labelu a disgrifio (rheoliad 4);

(iii)yn pennu'r amrywogaethau o winwydd sydd wedi'u dosbarthu ar gyfer cynhyrchu gwin (gan gynnwys gwin o safon psr (wedi'i gynhyrchu mewn rhanbarthau penodedig)) yng Nghymru (rheoliad 5);

(iv)yn pennu'r amodau ar gyfer defnyddio mynegiadau daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd (rheoliad 6);

(v)yn darparu ar gyfer pwerau archwilio a gorfodi (rheoliad 7);

(vi)yn awdurdodi rheolau ar symud cynhyrchion y sector gwin (rheoliadau 8 a 9);

(vii)yn darparu ar gyfer adolygiadau o waharddiadau etc. ar symud cynhyrchion y sector gwin a hysbysu hawliau er cael adolygiad (rheoliad 10);

(viii)yn rhyddhau swyddogion awdurdodedig o atebolrwydd personol am weithredoedd a gyflawnir ganddynt wrth weithredu'r Rheoliadau (rheoliad 11);

(ix)yn rhoi pwerau mewn perthynas â dadansoddi ac archwilio samplau i lysoedd y dygir achosion ger eu bron (rheoliad 12);

(x)yn pennu'r rhanbarthau yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu gwinoedd o safon psr (rheoliad 13);

(xi)yn pennu'r cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol, yr uchafswm y gellir ei gynhyrchu am bob hectar a'r prawf dadansoddol wrth gynhyrchu gwin o safon psr ac yn caniatáu cynhyrchu gwin o'r fath mewn ardaloedd sydd yn union gyfagos at y rhanbarthau penodedig ac yn dynodi'r corff cymwys i ymdrin â gwin o'r fath (rheoliadau 14 i 18); a

(xii)yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau ac yn darparu amddiffyniadau (rheoliadau 19 i 23).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources