(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Hydref 2001.

Mae'n dwyn i rym adrannau 1 i 5 o'r Ddeddf sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Plant 1989 sy'n darparu ar gyfer pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chategorïau penodol o bobl ifanc a phlant 16 oed a throsodd sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdodau hynny. Mae'r darpariaethau yn ymdrin ag asesu anghenion, paratoi cynlluniau a'u hadolygu, cadw cysylltiad a rhoi cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc o'r fath ac ynghylch ystyried eu sylwadau (gan gynnwys eu cwynion). Maent hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff eraill i hysbysu awdurdodau lleol pan fydd plant penodol wedi peidio â chael llety ganddynt. Mae cychwyn rhannau o adran 7 yn ymwneud â diwygiadau technegol i Ddeddf 1989.