(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diwrnod i rai o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym.

Mae'n dwyn i rym, ar 1 Gorffennaf , bob pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, ac i baratoi safonau cenedlaethol gofynnol a safonau eraill, sef pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad gan y Rhannau canlynol o'r Ddeddf (a'r Atodlenni sy'n gysylltiedig â'r Rhannau hynny): Rhan I (Rhagarweiniol); Rhan II (Sefydliadau ac Asiantaethau); Rhan III (Gwasanaethau Awdurdodau Lleol); a Rhan VI (Gwarchod Plant a Gofal Dydd).

Yn ychwanegol mae'n dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar y diwrnod hwn. Mae'n dod ag adran 5(b) i rym a'r rhan honno o adran 79 sy'n mewnosod adran 79B(2) newydd yn Neddf Plant 1989 (ac effaith y darpariaethau hyn yw datgan mai'r Cynulliad fydd yr awdurdod cofrestru gofal cymdeithasol dros Gymru). Bydd hyn yn hwyluso gweithgareddau sy'n paratoi ar gyfer dyfodiad i rym y darpariaethau hynny yn y Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gofrestru'r gofal cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru.

Mae'n dod ag adran 112 i rym hefyd (sy'n diwygio Deddf Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 i wneud y pwerau sy'n cael eu rhoi ganddi yn arferadwy mewn perthynas â swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983). Bydd hyn yn caniatáu i'r Cynulliad roi canllawiau a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â'u pŵer i godi taliadau am y gwasanaethau lles y maent yn eu darparu.