(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992 (“Gorchymyn 1992”), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2). Pennodd Gorchymyn 1992 isafswm maint ar gyfer glanio a gwerthu gwyniaid (Merlangius merlangus) ym Mhrydain ac ar gyfer eu cludo ar gwch pysgota Prydeinig. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.
Erbyn hyn, rhagnodir yr isafswm maint ar gyfer glanio, gwerthu, storio a chludo gwyniaid gan erthygl 19 (o'i darllen gydag erthygl 17) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1). Mae'r Rheoliad hwnnw'n darparu ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu y rhai ifanc o organeddau morol. Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u nodi yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000, a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000. [2000 Rhif 2230 (Cy. 148)].