(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986 (“Gorchymyn 1986”), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2).
Gwaharddodd Gorchymyn 1986 lanio crafangau crancod yn y Deyrnas Unedig os ydynt wedi'u datod oddi ar grancod bwytadwy (Cancer pagurus) sydd wedi'u dal o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.
Erbyn hyn, gellir dod o hyd i ddarpariaethau ynghylch cadw crancod bwytadwy a chrafangau sydd wedi'u datod ar fwrdd llongau a'u glanio yn Erthygl 18.4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1) ynghylch cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu organeddau morol ifanc.
Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u gwneud yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 (2000 Rhif 2230 (Cy. 148)) a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000.