2001 Rhif 1440 (Cy.102)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru 2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Mai 2001 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen (fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw Nodyn yn y colofnau hynny sy'n ymwneud â'r bwyd hwnnw) ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys bwyd o'r fath fel cynhwysyn ac sy'n cael ei werthu, ei anfon neu ei ddanfon fel cynnyrch cyfansawdd;

  • ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Ran I neu II o'r Atodlen a dehonglir y defnydd ar unrhyw ddisgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn i olygu'r cynnyrch dynodedig a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “echdynnyn coffi” (“coffee extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o ffa coffi sydd wedi'u rhostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y cyfrwng echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas) ac sy'n cynnwys cyfansoddion toddadwy ac aromatig coffi yn unig, heblaw'r sylweddau annhoddadwy hynny y mae'n amhosibl eu gwaredu ac olewau annhoddadwy sy'n deillio o goffi;

  • ystyr “echdynnyn sicori” (“chicory extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o sicori sydd wedi'i rostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y dull echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas);

  • mae “gwerthu” ( “sell”) yn cynnwys cynnig neu ddatgelu i werthu neu feddiannu i werthu a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;

  • F1ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

  • F2...3
  • ystyr “sicori” (“chicory”) yw gwreiddiau Cichorium Intybus L., heblaw gwreiddiau planhigion sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu sicori witloof, ac sydd wedi'u glanhau, eu sychu a'u rhostio'n briodol.

(2)

Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.

(3)

Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr Atodlen fel cyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Cwmpas y Rheoliadau3.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2)

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble.

(3)

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate customer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—

    1. (a)

      er mwyn ailwerthu,

    2. (b)

      at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

    3. (c)

      at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

  • mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu driniaeth; ac

  • ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, cantîn, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) y mae bwyd yn cael ei baratoi ynddynt, wrth gynnal busnes, i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb unrhyw waith paratoi pellach.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Disgrifiadau neilltuedig4.

Ni chaiff neb roi label gydag unrhyw fwyd a werthir ganddo, na'i arddangos gydag unrhyw fwyd a gynigir neu a ddatgelir ganddo i'w werthu neu sydd yn ei feddiant er mwyn ei werthu, p'un a yw'r label ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, sef papur lapio neu gynhwysydd sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo neu a ffurfir ohonynt oni bai—

(a)

mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;

(b)

bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir mai dim ond un o gynhwysion y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu

(c)

bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch o'r fath.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig5.

(1)

Heb ragfarnu F3Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol—

(a)

yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch, sef yr enw a ragnodir gan y gyfraith ar gyfer y cynnyrch hwnnw at ddibenion F4Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011;

(b)

y gair “decaffeinated” yn achos cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen sydd wedi bod drwy broses ddigaffeinio ac nad yw'r caffein anhydrus gweddilliol sydd ynddo yn fwy na 0.30% o'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi;

(c)

yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen y mae siwgr wedi'i ddefnyddio ynddo, y geiriau “with X”, “preserved with X”, “with added X” neu “roasted with X”, fel y bo'n briodol, ac “X” yw enw'r cynnyrch siwgr a ddefnyddiwyd, a'r enw hwnnw fydd disgrifiad neilltuedig y cynnyrch hwnnw a bennir mewn perthynas ag ef yn F5Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 neu, os nad oes gan y cynnyrch siwgr unrhyw ddisgrifiad neilltuedig o'r fath, enw'r cynnyrch a fyddai'n cael ei ddefnyddio, yn unol F6ag Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011, fel enw'r bwyd, petai'r cynnyrch siwgr ei hun yn cael ei werthu fel bwyd;

(ch)

yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi wedi'i fynegi fel canran; a

(d)

yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori wedi'i fynegi fel canran.

(2)

Yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 25% o sylwedd sych sy'n deillio o goffi ac yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 45% o sylwedd sych sy'n deillio o sicori, gellir ychwanegu'r gair “concentrated” at y disgrifiad neilltuedig.

(3)

Bydd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff 1(b) ac (c) uchod yn yr un maes gwelediad â'r disgrifiad neilltuedig sy'n ofynnol gan baragraff (1)(a) uchod.

Dull marcio neu labeluF76.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cosbi a gorfodi7.

(1)

Os bydd unrhyw berson yn torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd y person hwnnw'n euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2)

Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r darpariaethau hynny yn ei ardal ac yn eu gweithredu.

(3)

Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir i benderfynu faint o garbohydrad rhydd a thoddadwy a gynhwysir mewn echdynion coffi gydymffurfio â ag F8Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion a rhaid iddynt gael eu dilysu neu eu safoni.

Darpariaeth drosiannolF98.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforionF109.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 199010.

Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)

adran 2 (ystyr estynedig gwerthu, etc.);

(b)

adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)

adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)

adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y'i cymhwysir at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)

adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)

adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)

adran 33 (rhwystro, etc. swyddogion);

(f)

adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)

adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)

adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Diwygio a diddymu11.

F11(1)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2)

Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Coffi a Chynyrchion Coffi 1978 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru)—

(a)

yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau) 19827, yn Atodlen 1;

(b)

yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau)19858, yn Atodlen 1, Rhan I;

(c)

yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 19909, yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

(ch)

yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 199110), yn Atodlen 1, Rhan I;

(d)

yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Diddymiadau) 199211, yn Atodlen 1, Rhan I;

(dd)

yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199512), yn Atodlen 9;

F12(e)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)

Diddymir drwy hyn Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 198213) a Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1987 14 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199815).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Rheoliadau 2 a 5

RHAN IECHDYNION COFFI A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. Rhn. I mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Colofn 1

Colofn 2

Disgrifiadau neilltuedig

Cynhyrchion Echdynion Coffi

1.

“Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu Soluble coffee

Echdynnyn coffi ar ffurf powdr, gronynnau, fflawiau, ciwbiau neu ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn llai na 95%, ac nad yw'n cynnwys sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi.

2.

“Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee”

gyda'r gair “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob tro

Echdynnyn coffi ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%, nac yn cynnwys unrhyw sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi.

3.

“Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee”

gyda'r gair “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob tro

Echdynnyn coffi ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%.

SYLWER: Gall y cynnyrch gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 12%

RHAN IIECHDYNION SICORI A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. Rhn. II mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1

Colofn 1

Colofn 2

Disgrifiadau neilltuedig

Cynhyrchion Echdynion Coffi

1.

“Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

Echdynnyn sicori ar ffurf powdr, gronynnau, ffawiau, ciwbiau neu'r ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn llai na 95%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori.

2.

“Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

gyda'r geiriau “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob tro

Echdynnyn sicori ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori.

3.

“Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

gyda'r geiriau “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob tro

Echdynnyn sicori ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 35%

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli.

2.

Mae'r Rheoliadau—

(a)

yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer echdynion coffi ac echdynion sicori (rheoliad 2 a'r Atodlen);

(b)

yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3);

(c)

yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4);

(ch)

yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6);

(d)

yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).

3.

Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.