(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli.LL+C
2. Mae'r Rheoliadau—LL+C
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer echdynion coffi ac echdynion sicori (rheoliad 2 a'r Atodlen);
(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3);
(c)yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4);
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6);
(d)yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).
3. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.LL+C