(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Sefydlodd Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (“Rheoliadau 1995”) dribiwnlysoedd a gweithdrefnau i ddarparu ar gyfer apelau mewn perthynas â'r tâl cymunedol (sydd wedi'i ddiddymu bellach) a thaliadau'r dreth gyngor, ardrethu a phrisio.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 er mwyn newid y ffordd y caiff aelodau'r tribiwnlysoedd eu penodi. Y cynghorau sir neu'r cynghorau bwrdeistref sirol (a elwid “y cynghorau penodi”) a arferai benodi'r aelodau, ond erbyn hyn, gellir eu penodi drwy'r ddau ddull canlynol:

(1)

gan y cynghorau penodi (sydd wedi'u hailenwi “y cynghorau” yn unig bellach) a llywydd tribiwnlys yn gweithredu ar y cyd, a

(2)

gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn bosibl i lai o aelodau gael eu penodi i'r tribiwnlysoedd, yn ddarostyngedig i isafswm o ddau draean o nifer yr aelodau a bennir yn Rheoliadau 1995 (sef yr uchafswm aelodau).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi tribiwnlys gwahanol i ymdrin ag apêl os bydd gwrthdrawiad buddiannau neu'r hyn sy'n edrych fel gwrthdrawiad buddiannau yn codi. Mae darpariaethau tebyg hefyd yn cael eu hychwanegu at Reoliadau'r Dreth Gyngor (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993 a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Addasu Rhestrau ac Apelau) 1993 i'r graddau y mae'r rheiny'n gymwys i Gymru.