Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd3
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
a
i awdurdod lleol6 y mae darpar fabwysiadydd wedi cyflwyno cais iddo am gael ei asesu yn unol â rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001; a
b
i gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd7) sydd wedi cytuno i asesu darpar fabwysiadydd sydd wedi cyflwyno cais iddi yn unol â'r rheoliad hwnnw.
2
3
Rhaid i banel mabwysiadu y cyfeirir achos darpar fabwysiadydd ato ystyried yr achos a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cyfeirio'r achos ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, yn unol â rheoliad 10 (swyddogaethau panel mabwysiadu)11 o Reoliadau 1983.
4
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
a
gwneud penderfyniad ynghylch addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu a hysbysu'r darpar fabwysiadydd am y penderfyniad, yn unol â rheoliad 11A (penderfyniadau a hysbysiadau asiantaethau mabwysiadu - darpar fabwysiadwyr)12 o Reoliadau 1983; a
b
pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo —
i
yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a
ii
unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.