Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter”) yw person sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain3 sydd, ar unrhyw adeg, yn dod â phlentyn sy'n preswylio fel arfer y tu allan i'r ynysoedd hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig er mwyn ei fabwysiadu (heblaw mabwysiadu gan riant, gwarcheidwad neu berthynas);
mae i “panel mabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption panel” yn Rheoliadau 1983;
ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 19834;
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 20015.