(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan asiantaethau mabwysiadu a phaneli mabwysiadu yng Nghymru mewn perthynas ag asesu person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o wledydd tramor a'i gymeradwyo. Mae'r gweithdrefnau asesu a chymeradwyo yr un fath â'r rhai a nodir yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 mewn perthynas â darpar fabwysiadydd sy'n dymuno mabwysiadu plentyn sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ddarparu gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan fyddant yn penderfynu cymeradwyo darpar fabwysiadydd plentyn o wledydd tramor yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu.