Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2001.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn —
- ystyr “darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter”) yw person sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain3 sydd, ar unrhyw adeg, yn dod â phlentyn sy'n preswylio fel arfer y tu allan i'r ynysoedd hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig er mwyn ei fabwysiadu (heblaw mabwysiadu gan riant, gwarcheidwad neu berthynas);
mae i “panel mabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption panel” yn Rheoliadau 1983;
- ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 19834;
- ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 20015.
Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd3.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a)
(b)
(2)
(3)
(4)
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a)
(b)
pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo —
(i)
yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a
(ii)
unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan asiantaethau mabwysiadu a phaneli mabwysiadu yng Nghymru mewn perthynas ag asesu person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o wledydd tramor a'i gymeradwyo. Mae'r gweithdrefnau asesu a chymeradwyo yr un fath â'r rhai a nodir yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 mewn perthynas â darpar fabwysiadydd sy'n dymuno mabwysiadu plentyn sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ddarparu gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan fyddant yn penderfynu cymeradwyo darpar fabwysiadydd plentyn o wledydd tramor yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu.