(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (“Rheoliadau 1998”), sy'n gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/91/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd.

2.

Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)

yn diweddaru'r rhestr o fonomerau ac ychwanegion a all gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig i ddod i gysylltiad â bwyd (rheoliadau 10 ac 11 ac Atodlenni 1 a 2);

(b)

yn gosod cyfyngiadau a manylebau mewn perthynas â rhai o'r monomerau a'r ychwanegion hyn (rheoliadau 5(a), 6, 8, 10, 11 a 12 ac Atodlenni 1, 2 a 4); yn benodol, mae math newydd o gyfyngiad yn cael ei gyflwyno (y swm mwyaf o'r sylwedd a ganiateir yn y deunydd neu'r eitem orffenedig wedi'i fynegi mewn miligramau am bob 6 decimetr sgwâr o'r arwynebedd sydd mewn cysylltiad â'r bwyd);

(c)

yn dod â chynhyrchion a geir drwy eplesu â bacteria o fewn cwmpas Rheoliadau 1998 ac yn gosod cyfyngiadau a manylebau ar gyfer cynhyrchion o'r fath (rheoliadau 4, 5(b), 7 a 12 ac Atodlen 3);

(ch)

yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 9); a

(d)

yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3 a 13(a)) ac yn cywiro dau wall yn Rheoliadau 1998 (rheoliadau 10(ch) a 13(b)).

3.

Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.