- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (“Rheoliadau 1998”), sy'n gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/91/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd.
2. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn diweddaru'r rhestr o fonomerau ac ychwanegion a all gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig i ddod i gysylltiad â bwyd (rheoliadau 10 ac 11 ac Atodlenni 1 a 2);
(b)yn gosod cyfyngiadau a manylebau mewn perthynas â rhai o'r monomerau a'r ychwanegion hyn (rheoliadau 5(a), 6, 8, 10, 11 a 12 ac Atodlenni 1, 2 a 4); yn benodol, mae math newydd o gyfyngiad yn cael ei gyflwyno (y swm mwyaf o'r sylwedd a ganiateir yn y deunydd neu'r eitem orffenedig wedi'i fynegi mewn miligramau am bob 6 decimetr sgwâr o'r arwynebedd sydd mewn cysylltiad â'r bwyd);
(c)yn dod â chynhyrchion a geir drwy eplesu â bacteria o fewn cwmpas Rheoliadau 1998 ac yn gosod cyfyngiadau a manylebau ar gyfer cynhyrchion o'r fath (rheoliadau 4, 5(b), 7 a 12 ac Atodlen 3);
(ch)yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 9); a
(d)yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3 a 13(a)) ac yn cywiro dau wall yn Rheoliadau 1998 (rheoliadau 10(ch) a 13(b)).
3. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: