(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae pedair eitem ychwanegol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer disgyblion anabl, polisïau cyfleoedd cyfartal, diogelwch yr ysgol a'r cytuneb cartref-ysgol a fabwysiadayd gan yr ysgol bellach i gael eu cynnwys ym mhrosbectws yr ysgol - gweler Rheoliad 2.