Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Practisiau Deiliad-cronfa) (Trosglwyddo Asedau, Arbedion, Hawliau a Rhwymedigaethau a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2000.
RHAN ICYFFREDINOL
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Practisiau Deiliad-cronfa) (Trosglwyddo Asedau, Arbedion, Hawliau a Rhwymedigaethau a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu'n wahanol –
- dehonglir “arbedion” (“savings”) yn unol â rheoliad 25(1) a (2) o Reoliadau 1996;2
dehonglir “asedau a drosglwyddir” (“transferred assets”) yn unol ag erthygl 2;
dehonglir “balans terfynol” (“final balance”) yn unol ag erthygl 7;
- ystyr “cydsyniad ysgrifenedig” (“written consent”) yw cydsyniad ysgrifenedig gan yr Awdurdod Iechyd i ddefnyddio rhan o'r swm dynodedig ar gyfer diben penodol yn unol â rheoliad 25(2) o Reoliadau 1996 neu reoliad 24 o Reoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Practisiau Deiliad-cronfa) 19933 fel yr oedd y rheoliad cymwys yn cael effaith ar y dyddiad y rhoddwyd y cydsyniad;
- ystyr “cyfrif deiliad-cronfa” (“fund-holding account”) yw cyfrif banc (yn cynnwys unrhyw gyfrif mewn cymdeithas adeiladu a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986)4 a gynhelir gan gyn-aelodau practis deiliad-cronfa at ddiben derbyn swm dynodedig neu unrhyw ran ohono;
ystyr “cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa” (“former members of a fund-holding practice”) yw ymarferwyr meddygol —
- a)
a oedd yn aelodau o bractis deiliad-cronfa ac —
- i)
a roes y gorau i'w cydnabyddiaeth fel practis deiliad-cronfa yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 1996, neu
- ii)y tynnwyd eu cydnabyddiaeth yn unol â rheoliad 32 o Reoliadau Diwyigio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Practisiau Deiliad-cronfa) 19995); neu
- i)
- b)
a oedd yn aelodau o bractis deiliad-cronfa gweddilliol;
- a)
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cytundeb balans” (“balance agreement”) yw cytundeb ysgrifenedig a lofnodwyd ar ran yr Awdurdod Iechyd a chan bob un o gyn-aelodau practis deiliad-cronfa, yr effeithir ar eu cyfran o'r balans terfynol gan y cytundeb, sy'n nodi sut y mae balans terfynol y practis hwnnw i'w ddefnyddio ar gyfer un neu fwy o'r dibenion a nodir yn erthygl 8(4);
- ystyr “darpariaethau deiliad-cronfa” (“fund-holding provisions”) yw adrannau 14 i 17 o Ddeddf 19906;
- ystyr Deddf 1977 (“1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19777;
- ystyr Deddf 1990 (“the 1990 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19908;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
- ystyr “maint rhestr” (“list size”) yw y nifer o unigolion ar restr cleifion ymarferydd meddygol sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn unol â threfniadau o dan adran 29 o Ddeddf 19779);
ystyr “practis deiliad-cronfa” (“fund-holding practice”) yw practis deiliad-cronfa a gydnabyddir o dan Ddeddf 1990 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;
ystyr “practis deiliad-cronfa gweddilliol” (“residual fund-holding practice”) yw practis deiliad-cronfa a gydnabyddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000;
- ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Practisiau Deiliad-cronfa)199610 fel yr oeddynt mewn grym cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym;
ystyr “swm dynodedig” (“allotted sum”) yw unrhyw swm a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n daladwy gan yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf 1990 fel yr oedd mewn grym ar y pryd, neu swm i'w benderfynu yn unol ag erthygl 14 o'r Gorchymyn hwn.
(3)
(4)
Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at hawliau a rhwymedigaethau cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa yn gyfeiriad at yr hawliau a gafwyd a'r rhwymedigaethau a dynnwyd ynglŷn â defnyddio'r swm dynodedig.
(5)
Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
RHAN IITROSGLWYDDO ASEDAU, HAWLIAU A RHWYMEDIGAETHAU
Trosglwyddo Asedau2.
(1)
Trosglwyddir y swm dynodedig, neu unrhyw ran ohono sy'n weddill, am y flwyddyn ariannol 1999-2000, neu unrhyw flwyddyn flaenorol, p'un a ddaliwyd ef gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa neu gan yr Awdurdod Iechyd, ar 1 Ebrill 2000 i'r Awdurdod Iechyd.
(2)
Ar 1 Ebrill 2000 amnewidir yr Awdurdod Iechyd fel deiliad cyfrif y cyfrif deiliad-cronfa.
(3)
Bydd yr Awdurdod Iechyd yn ymdrin â'r swm dynodedig a drosglwyddwyd o dan baragraff (1) yn unol ag erthyglau 4 i 8.
Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau3.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) trosglwyddir—
(a)
unrhyw hawliau yr oedd gan gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa hawl iddynt, neu y gallent eu gorfodi yn union cyn 1 Ebrill 2000; a
(b)
unrhyw rwymedigaethau yr oedd cyn-aelodau practis deiliad-cronfa yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellid eu gorfodi yn eu herbyn yn union cyn y dyddiad hwnnw,
i'r Awdurdod Iechyd ar y dyddiad hwnnw, neu yn ôl y digwydd, gellir eu gorfodi ar y dyddiad hwnnw neu wedyn gan yr Awdurdod Iechyd neu yn ei erbyn.
(2)
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hawliau a gafwyd neu rwymedigaethau a dynnwyd ynglŷn â defnyddio arbedion yr oedd gofyn cael cydsyniad ysgrifenedig ar eu cyfer.
(3)
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hawliau a gafwyd neu rwymedigaethau a dynnwyd ynglŷn â defnyddio'r swm dynodedig er mwyn —
(a)
prynu nwyddau a defnyddiau ar gyfer eu defnyddio gan y practis deiliad-cronfa blaenorol, gan gynnwys contractiau cadw-a-chynnal ynglŷn â chyfrifiaduron neu offer swyddfa;
(b)
taliadau o dan gytundebau prydlesu a hurbwrcasu er mwyn prynu nwyddau a defnyddiau.
RHAN IIIRHWYMEDIGAETHAU Y BYDD YR AWDURDODAU IECHYD YN ATEBOL AMDANYNT A CHOSTAU Y BYDDANT YN EU TALU
Defnyddio asedau a drosglwyddir4.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fydd —
(a)
unrhyw asedau wedi eu trosglwyddo i'r Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 2; a
(b)
yn unol ag erthyglau 3, 5 neu 6, gellir gorfodi unrhyw rwymedigaeth yn erbyn yr Awdurdod Iechyd, neu mae unrhyw gost i'w thalu gan yr Awdurdod Iechyd,
bydd yr Awdurdod Iechyd yn sicrhau bod y rhwymedigaeth neu'r gost yn y lle cyntaf yn cael ei thalu o'r asedau a drosglwyddwyd.
(2)
Pan fydd rhwymedigaethau a chostau yn uwch na chyfanswm gwerth yr asedau a drosglwyddwyd, rhaid talu amdanynt o'r asedau a drosglwyddwyd yn y drefn ganlynol—
(a)
costau a dynnwyd wrth baratoi cyfrifon fel y'u nodir yn erthygl 5;
(b)
y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a gadwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa fel y'u nodir yn erthygl 6;
(c)
y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 3.
Costau a dynnir wrth baratoi cyfrifon y practisiau deiliad-cronfa gweddilliol5.
(1)
Yn ddarostyngedig i erthygl 9, bydd yr Awdurdod Iechyd yn talu costau rhesymol a dynnwyd gan gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a oedd yn bractis deiliad-cronfa gweddilliol wrth baratoi cyfrifon blynyddol y practis hwnnw ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, a gall gynnwys—
(a)
taliadau i weithwyr neu gyn-weithwyr y practis deiliad-cronfa gweddilliol;
(b)
taliadau naill ai —
(i)
i gyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa gweddilliol, neu
(ii)
i ymarferydd meddygol cofrestredig ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion y practis deiliad-cronfa gweddilliol blaenorol sydd wrthi'n paratoi'r cyfrifon;
(c)
ffioedd archwilwyr;
(ch)
taliadau sy'n ymwneud â chyfrifiaduron a gwybodaeth technoleg.
(2)
Caiff yr Awdurdod Iechyd secondio unrhyw un o'i swyddogion neu ei weithwyr hefyd i gynorthwyo cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa gweddilliol wrth baratoi cyfrifon blynyddol y practis deiliad-cronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, ac yn yr achos hwnnw bydd yn talu cost y secondiad.
(3)
Caiff yr Awdurdod Iechyd ryddhad o unrhyw rwymedigaeth i dalu costau a dynnwyd yn unol â pharagraff 1, yn gyfan neu'n rhannol, wrth ryddhau rhwymedigaeth cyn-aelodau practis deiliad-cronfa gweddilliol i unrhyw berson arall.
Hawliau a rhwymedigaethau sy'n parhau gyda'r cyn-aelodau6.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff unrhyw rwymedigaeth na ellid ei gorfodi yn erbyn yr Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 3, ei thalu er hynny gan yr Awdurdod Iechyd os yw'r rhwymedigaeth —
(a)
yn un sy'n digwydd o fewn erthygl 3(2); neu
(b)
yn cael ei thynnu cyn 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny yn unol â chydsyniad ysgrifenedig a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw.
(2)
(3)
Pan fydd cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa yn dod yn ymwybodol o unrhyw hawliad yn ymwneud â rhwymedigaeth sy'n dod o fewn paragraff (1), rhaid iddynt –
(a)
rhoi gwybod i'r Awdurdod Iechyd am yr hawliad; a
(b)
gweithredu yn ôl gofyniad rhesymol yr Awdurdod Iechyd er mwyn osgoi, dadlau, gwrthwynebu, cyfaddawdu, amddiffyn neu apelio yn erbyn yr hawliad.
RHAN IVBALANS TERFYNOL
Cyfrifo a dosrannu'r balans terfynol7.
(1)
Pan fodlonir Awdurdod Iechyd fod yr holl rwymedigaethau a'r costau a drosglwyddwyd iddo neu y mae'n gyfrifol amdanynt wedi eu rhyddhau yn unol ag erthyglau 4, 5 a 6, bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu a fydd unrhyw ran o'r asedau a drosglwyddwyd iddo o dan erthygl 2 yn aros.
(2)
Bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhoi gwybod i bob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y gyfran nas gwariwyd o asedau a drosglwyddwyd, gan gynnwys unrhyw arbedion o bractis deiliad-cronfa gweddilliol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, fel balans terfynol cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa.
(3)
Pan gynhwysir un neu ragor o'r cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa ar restrau meddygol un neu fwy o'r Awdurdodau Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, bydd balans terfynol y practis deiliad-cronfa hwnnw'n cael ei ddosrannu rhwng yr Awdurdod Iechyd perthnasol a'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny yn unol â pharagraffau (5) i (7) a bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn trosglwyddo i'r Awdurdod neu i'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny y gyfran honno o'r balans terfynol y mae gan bob un hawl iddi.
(4)
Pan ddosrennir y balans terfynol o bractis deiliad-cronfa blaenorol rhwng Awdurdodau Iechyd bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn rhoi gwybod i bob Awdurdod Iechyd sy'n ymwneud â'r mater a phob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y dosraniad a swm cyfran pob cyn-aelod.
(5)
Hawl pob Awdurdod Iechyd fydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa sydd ar ei restr feddygol a gyfrifir yn unol â pharagraffau (6) a (7).
(6)
Pan oedd cytundeb ysgrifenedig mewn grym ar 31 Mawrth 2000, rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa a wnaeth ddarpariaeth benodol i ddosrannu'r arbedion rhwng yr aelodau hynny, dosrennir y balans terfynol yn unol â'r cytundeb hwnnw.
(7)
Pan nad oedd cytundeb o'r fath mewn grym ar 31 Mawrth 2000, dosrennir y balans terfynol rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa, fel y bydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa o'r balans terfynol yr un gyfradd o falans terfynol cyflawn y practis â'r gyfradd yr oedd ei faint rhestr yn ei ddwyn i swm holl feintiau rhestr cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa ar y dyddiad dosrannu.
(8)
Pan fydd cyn-aelod o bractis deiliad-cronfa yn marw neu'n ymddeol neu'n gadael y practis ar ôl dosrannu balans terfynol y practis —
(a)
pan geir darpariaeth ar gyfer y digwyddiad perthnasol mewn cytundeb o dan baragraff (6), ymdrinir â chyfran y cyn-aelod yn unol â'r cytundeb hwnnw;
(b)
pan nad oes gytundeb o dan baragraff (6) neu pan nad yw'r cytundeb yn gwneud darpariaeth ar gyfer y digwyddiad perthnasol, bydd cyfran y cyn-aelod i'w benderfynu gan yr Awdurdod Iechyd ac ni fydd erthygl 8 yn gymwys i'r gyfran honno.
(9)
Yn yr erthygl hon ystyr “dyddiad dosrannu” yw —
(a)
yn achos practisiau deiliad-cronfa blaenorol nad oedd yn cael eu cydnabod yn bractisiau deiliad-cronfa ar 31 Mawrth 2000, y dyddiad pan beidwyd â chydnabod y practis deiliad-cronfa blaenorol yn bractis deiliad-cronfa; a
(b)
31 Mawrth 2000, yn achos practisiau deiliad-cronfa gweddilliol a oedd yn dal i gael eu cydnabod ar y dyddiad hwnnw.
Dylanwad dros y balans terfynol8.
(1)
Yn ddarostyngedig i weddill paragraffau'r erthygl hon, bydd yr Awdurdod Iechyd yn defnyddio unrhyw falans terfynol ar gyfer cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa fel a ganlyn:—
(a)
at y dibenion a bennir yn y cytundeb balans rhyngddo ef a'r cyn-aelodau, neu
(b)
pan na wnaethpwyd cytundeb balans cyn dyddiad y cytundeb wrth ryddhau'r rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau practis deiliad-cronfa at y dibenion a bennir ym mharagraff (4) ond hyd at fwyafswm ar gyfer pob blwyddyn ariannol o £90,000, a sicrheir y bydd y swm hwnnw ar gael —
(i)
ac eithrio bod paragraff (9)(b) yn gymwys, ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol 1999-2000 i 2002-2003;
(ii)
pan fydd paragraff (9)(b) yn gymwys, ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol 2000-2001 i 2002-2003, gan ychwanegu'r swm ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000 at y swm y trefnir y bydd ar gael yn unrhyw un o'r blynyddoedd hynny.
(2)
Ac eithrio lle mae cytundeb balans yn dal i fod mewn grym ar y dyddiad hwnnw, pan fydd unrhyw ran o'r balans terfynol heb ei wario ar 1 Ebrill 2003, ni fydd gofyn bellach i'r Awdurdod Iechyd ei wario i ryddhau rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa.
(3)
Ni ddefnyddir y balans terfynol yn unol ag is-baragraff (a) neu (b) o erthygl 8(1) hyd nes —
(a)
ac eithrio yn achos cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa nad oedd bellach yn cael ei gydnabod fel practis deiliad-cronfa ar 1 Ebrill 1998, y bydd y cyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1998-1999 wedi'u cyflwyno, ac yn achos practisiau deiliad-cronfa gweddilliol, y flwyddyn ariannol 1999 – 2000, i'r Awdurdod Iechyd a'u harchwilio, yn unol ag erthyglau 9 a 10; a
(b)
pan fydd angen dosrannu'r balans terfynol yn unol ag erthygl 7, mae'r Awdurdod Iechyd wedi anfon hysbysiadau yn ôl gofynion erthygl 7(4).
(4)
Ni cheir defnyddio'r balans terfynol ond at un neu ragor o'r dibenion canlynol —
(a)
prynu deunydd neu offer sydd —
(i)
i'w defnyddio ar gyfer trin (gan gynnwys triniaeth ddiagnostig) cleifion cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa, neu
(ii)
sy'n gwella cysur neu gyfleuster cleifion cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa,
(b)
taliadau i —
(i)
deietegwyr, neu
(ii)
ymgynghorwyr yn darparu cyngor ar ddeiet, traul alcohol, ysmygu neu faterion iechyd personol eraill,
(c)
prynu cyfrifiaduron, yn cynnwys caledwedd a meddalwedd
(ch)
(d)
cynlluniau i wella rhagnodi,
(dd)
taliadau ar gyfer —
(i)
prynu deunyddiau neu offer addysg iechyd,
(ii)
cynghori ar ledaenu addysg iechyd i gleifion,
(e)
mewn perthynas ag unrhyw adeilad y mae'r cyn-aelodau yn cynnal eu practis ohono —
(i)
gwelliannau i'r adeilad gan gynnwys newidiadau i'r adeilad neu ei addurno a phrynu dodrefn a dodrefniadau,
(ii)
adeiladu estyniad,
lle mae'r gwelliant neu'r estyniad arfaethedig yn gyson â'r cynllun buddsoddi a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod Iechyd sy'n arfer swyddogaethau ynglŷn â chleifion practis deiliad-cronfa blaenorol.
(5)
(6)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan drosglwyddwyd arbedion o bractis deiliad-cronfa y tynnwyd cydnabyddiaeth oddi arno i Awdurdod Iechyd yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau 1996, gellir gwario arbedion felly sy'n parhau gyda'r Awdurdod Iechyd ar 1 Ebrill 2000 at y dibenion a nodir ym mharagraff (4) y gall cyn-aelodau o'r practis hwnnw ofyn amdanynt, ac ni fydd paragraff (1) yn gymwys.
(7)
Er gwaethaf paragraffau (5) a (6) a diddymiad darpariaethau deiliad-cronfa, pan fydd yr Awdurdod Iechyd eisoes wedi ymrwymo i wario arbedion yn unol â rheoliad 9(5) neu 17(3) o Reoliadau 1996 ar gyfer un o'r dibenion a nodir yn rheoliad 25 o'r Rheoliadau hynny, caiff ddefnyddio'r arbedion hynny at y diben hwnnw ac ni fydd yr erthygl hon yn gymwys i'r arbedion hynny.
(8)
Pan ddosrennir balans terfynol practis deiliad-cronfa blaenorol yn unol ag erthygl 7, a bod yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn trosglwyddo i Awdurdod Iechyd arall swm sy'n cynrychioli cyfran cyn-aelod o'r deiliad-cronfa dan sylw, yr Awdurdod Iechyd a fydd yn cael y gyfran honno fydd yn defnyddio'r balans terfynol yn unol â pharagraff (1) ac ef fydd yn mynd i unrhyw gytundeb balans â'r cyn-aelod hwnnw.
(9)
Yn yr erthygl hon, ystyr “dyddiad cytundeb” —
(a)
yn achos cyn-aelodau practisiau deiliad-cronfa heblaw practisiau deiliad-cronfa gweddilliol, yw 30 Ebrill 2000,
(b)
yn achos cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa a oedd yn bractisiau deiliad-cronfa gweddilliol, yw 1 Ebrill 2001.
RHAN VCYFRIFON
Paratoi cyfrifon9.
(1)
(2)
Pan dynnir cydnabyddiaeth yn ystod y flwyddyn ariannol 1999-2000, oddi wrth gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa yn unol â rheoliadau 13 ac 14 neu 15 ac 16 o Reoliadau 1996, cyflawnir y ddyletswydd a osodir o dan adran 98(2B)(c) o Ddeddf 1977 gan yr Awdurdod Iechyd.
(3)
At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd adran 98(2B) o Ddeddf 1977 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na ddiddymwyd darpariaethau y deiliad-cronfa.
(4)
Bydd y cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a oedd yn bractis deiliad-cronfa gweddilliol yn cyflwyno cyfrifon blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000 i'r Awdurdod Iechyd ar 13 Mai 2000 neu cyn hynny.
Archwilio cyfrifon10.
RHAN VIDARPARIAETHAU EITHRIO
Ymchwilio i gŵynion gan Gomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd11.
Ymchwilio i gŵynion eraill12.
Adennill cyfraniad at y swm dynodedig13.
Amrywio a phenderfynu'r swm dynodedig14.
(1)
(2)
(3)
At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd paragraff (4A) i (6) o reoliad 18 o Reoliadau 1996 yn parhau yn gymwys fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu.
Ceisiadau heb eu cwblhau ynglŷn ag arbedion15.
(1)
(2)
Bydd unrhyw apêl a wnaed cyn 1 Ebrill 2000 i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r hawl i apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn codi ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny, yn erbyn gwrthodiad yr Awdurdod Iechyd i gydsynio â defnyddio unrhyw ran o'r swm dynodedig at ddiben a bennwyd yn rheoliad 25(2) o Reoliadau 1996 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa yn cael ei phenderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 25.
(3)
At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd paragraffau (3) i (7) o reoliad 25 o Reoliadau 1996 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu.
Adennill symiau a gamddefnyddiwyd16.
(1)
(2)
Bydd paragraff (1) yn gymwys p'un a gychwynnwyd y gweithdrefnau i benderfynu a gafodd swm ei gamddefnyddio neu i adennill y fath swm cyn 1 Ebrill 2000 neu beidio.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â diddymu, drwy adran 1 o Ddeddf Iechyd 1999, system ddeiliad-cronfa gan Ymarferydd Cyffredinol yng Nghymru, fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.
Yn benodol, mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo asedau, hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â deiliad-cronfa i'r Awdurdod Iechyd perthnasol o bractis deiliad-cronfa blaenorol (erthyglau 2 a 3) ac ar gyfer defnydd yr Awdurdod Iechyd o'r asedau hynny drwy fod yn atebol am y rhwymedigaethau a drosglwyddir iddo a'r rheini a gedwir gan y cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa (erthyglau 4 a 6).
Pan fydd asedau yn dal yno ar ôl i holl rwymedigaethau'r practis deiliad-cronfa blaenorol gael eu cyflawni, mae'r balans i'w ddosrannu, lle mae cyn-aelodau o bractis mewn ardal Awdurdod Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, rhwng yr Awdurdodau Iechyd hynny (erthygl 7), a beth bynnag mae i'w gymhwyso gan yr Awdurdod Iechyd at y dibenion a bennwyd yn unol â dymuniadau cyn-aelodau'r practis (erthygl 8).
Yn ychwanegol, yn Rhannau V a VI, gwneir darpariaeth fel bod y rhwymedigaethau ynglŷn â chyfrifo, er gwaethaf diddymu deiliad-cronfa, yn dal yn gymwys hyd nes bod cyfrifon terfynol wedi cael eu harchwilio a'u cyflwyno. Gellir o hyd archwilio i gŵynion mewn perthynas â chynnal practis deiliad-cronfa. Gellir datrys y materion sydd dros ben ynglŷn â defnyddio'r arbedion o ddeiliad-cronfa a gellir adennill symiau dynodedig a gamddefnyddiwyd, ar 1 Ebrill 2000 neu cyn hynny.