Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“y Ddeddf”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 (“Rheoliadau 1997”). Mae Rheoliadau 1997 yn ymwneud â'r system cyllid cyfalaf ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n weithredol ers 1 Ebrill 1990.

O dan Ran IV o'r Ddeddf mae'n ofynnol bod gan yr awdurdodau lleol swm o ddarpariaeth gredyd ar gael pan fyddant yn gwneud neu'n amrywio trefniant credyd oni bai bod y trefniant credyd yn cael ei hepgor o'r gofyniad gan reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Rheoliad 40 newydd yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 fel nad oes angen mwyach i awdurdod lleol ddarparu darpariaeth gredyd wrth wneud trefniant credyd sy'n drosglwyddiad cyllid preifat.