2000 Rhif 978 (Cy. 48 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.

(3)

Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau2.

Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£40.33” amnewidier “£41.54” ac yn lle'r swm “£14.57” amnewidier “£15.01”.

Diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau3.

Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster – ailosod neu drwsio), ar ôl “regulation 8(2)” mewnosoder “(b)”.

Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau4.

Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)–

(a)

ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”; a

(b)

ym mharagraff (3), yn lle “£10.80”, amnewidier “£11.00”.

Diwygio'r Atodlenni i'r prif Reoliadau5.

(1)

Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb – cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw

TABL

(1)

(2)

Hen swm

Swm newydd

£ 28.70

£ 29.30

£ 43.60

£ 44.50

£ 59.40

£ 60.60

£ 134.20

£ 136.90

£ 49.50

£ 50.50

£ 63.00

£ 64.30

£ 75.80

£ 77.30

£ 147.50 (yn y ddau fan lle mae'n ymddangos)

£ 150.50

£ 42.00

£ 42.80

(2)

Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol bach ac arbennig a theclynnau cymhleth)–

(a)

ym mharagraff 1(1)(a) (prism – lens golwg unigol), yn lle “£6.00” amnewidier “£6.10”;

(b)

ym mharagraff 1(1)(b) (prism – lens arall), yn lle “£6.90” amnewidier “£7.00”;

(c)

ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.00” amnewidier “£3.10”;

(ch)

ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.50” amnewidier “£3.60”;

(d)

ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol bach), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”, yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”, ac yn lle “£22.70” amnewidier “£23.20”;

(dd)

ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”;

(e)

ym mharagraff 2 (a) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys golwg unigol), yn lle “£10.00” amnewidier “£10.20”;

(f)

ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys eraill), yn lle “£25.40” amnewidier “£25.90”.

(3)

Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau – trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnydd o'r Rheoliadau hyn6.

Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r prif Reoliadau ar 1 Ebrill 2000 neu wedyn y mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaetho

ATODLENATODLEN 3 I'R PRIF REOLIADAU FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Rheoliad 5(3)

“ATODLEN 3GWERTHOEDD TALEBAU – TRWSIO

Rheoliadau 19(2) a (3)

Natur y Trwsio

Codau'r Llythrennau – Gwerthoedd

(1)

(2)

A

B

C

D

E

F

G

H & I

£

£

£

£

£

£

£

£

Trwsio neu ailosod un lens

9.10

16.70

24.80

63.00

19.80

26.50

33.20

69.80

Trwsio neu ailosod dwy lens

18.40

33.60

49.70

125.90

39.60

53.10

66.40

139.50

Trwsio neu ailosod:

blaen ffrâm

9.40

9.40

9.40

9.40

9.40

9.40

9.40

9.40

ochr ffrâm

5.60

5.60

5.60

5.60

5.60

5.60

5.60

5.60

ffrâm gyfan

11.00

11.00

11.00

11.00

11.00

11.00

11.00

11.00”

(Nid yw'r nodyn hwn yn ffurfio rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth lechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofioon golwg y Gwasanaeth lechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 oed, sy'n cael addysg amser-llawn, yng nghategorïau cleifion a all fod yn gymwys i gael taliadau ar gyfer trwsio neu ailosod teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, ac i gynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae Rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o gyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd.

Mae Rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau arbennig.

Mae Rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.0%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd.