(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer gorfodi cyfyngiadau ynglyn â chadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau i adfer y stoc penfreision yn y rhan honno o Fôr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES) sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru. Cynhwysir y cyfyngiadau yn Erthygl 1, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 304/2000 (OJ Rhif L35, 10.2.2000, t.10 (“Rheoliad y Comisiwn”).

Yn ystod y cyfnod o 14 Chwefror 2000 i 30 Ebrill 2000, mae erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn yn gwahardd defnyddio mathau penodedig o rwydi ac offer pysgota o fewn ardal ddaearyddol benodedig o Fôr Iwerddon.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad mewn perthynas â chyfansoddiad canrannol haldiadau o'r rhywogaeth darged a gymerir gan wahanol amrediadau o feintiau masgl, a gynhwysir yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98, ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol, fel y'i darllenir gydag Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn. Mae erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn yn anghymhwyso mesurau trosiannol ar gyfer 2000 a nodir yn nhroednodyn 6 i Atodiad I i Reoliad y Cyngor 850/98, a allai fel arall ganiatáu i nifer uchel o'r rhywogaeth darged gael eu cymryd fel sgil-haldiad ym Môr Iwerddon.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn neu Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor 850/98. Pennir cosbau, a all gynnwys fforffedu pysgod, rhwydi ac offer pysgota arall, ar gyfer tramgwyddau o'r fath (erthygl 4).

Mae'r Gorchymyn yn rhoddi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota ac ar y tir ac mewn perthynas â chipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8), a hefyd i swyddogion eraill mewn perthynas â rhwydi ac offer pysgota (erthygl 9). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o rwystro neu ymosod ar swyddog (erthygl 11).

Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr ac ar gyfer achosion gan bwyllgorau pysgodfeydd lleol (erthygl 13). Yr uchafswm cosb statudol a bennir yn y Gorchymyn yw £5,000 ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a orfodir gan lys ynadon (erthygl 5).

Mae erthyglau 10, 12 a 14 yn cynnwys darpariaethau ategol.