Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, ar gyfer Cymru, newid i Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3950/92 (OJ Rhif L405, 31.12.92, t.1) (fel y'i diwygiwyd yn flaenorol) gan sefydlu ardoll ychwanegol yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth, sef newid a wnaed gan Erthygl 1(7) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1256/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.73). Mae Erthygl 6(1) yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau bennu unrhyw ddyddiad yn y flwyddyn gwota o dan sylw, mewn perthynas â throsglwyddo cwota dros dro (sef heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr hyd yn hyn) a'r dyddiad hwnnw yw'r dyddiad olaf yr awdurdodir trosglwyddiadau o'r fath. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno 31 Mawrth yn ddyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad o drosglwyddiadau dros dro i'r Bwrdd Ymyrraeth) (rheoliad 6).
Yn sgil hyn, mae newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r dyddiadau pryd y mae'n ofynnol rhoi hysbysiadau penodol eraill etc. i'r Bwrdd Ymyrraeth (rheoliadau 4 a 5).
Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn –
yn tynnu Ynysoedd Shetland o'r trefniadau penodol ar gyfer cwota llaeth sy'n gymwys yn ardal Ynysoedd yr Alban (rheoliad 3);
yn cynnwys yn y dosbarthiadau o bersonau y mae'n ofynnol iddynt roi cymorth rhesymol i swyddogion awdurdodedig, gynhyrchwyr, prynwyr, cyflogeion ac asiantau cynhyrchwyr neu brynwyr, cludwyr llaeth a phersonau sy'n ymgymryd â phrofion braster menyn mewn labordai ar gyfer prynwyr ac yn unioni'r rhain â'r tir ac adeiladau y gellir defnyddio pwêr myndediad i fynd i fewn iddynt (rheoliad 7).