- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, ar gyfer Cymru, newid i Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3950/92 (OJ Rhif L405, 31.12.92, t.1) (fel y'i diwygiwyd yn flaenorol) gan sefydlu ardoll ychwanegol yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth, sef newid a wnaed gan Erthygl 1(7) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1256/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.73). Mae Erthygl 6(1) yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau bennu unrhyw ddyddiad yn y flwyddyn gwota o dan sylw, mewn perthynas â throsglwyddo cwota dros dro (sef heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr hyd yn hyn) a'r dyddiad hwnnw yw'r dyddiad olaf yr awdurdodir trosglwyddiadau o'r fath. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno 31 Mawrth yn ddyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad o drosglwyddiadau dros dro i'r Bwrdd Ymyrraeth) (rheoliad 6).
Yn sgil hyn, mae newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r dyddiadau pryd y mae'n ofynnol rhoi hysbysiadau penodol eraill etc. i'r Bwrdd Ymyrraeth (rheoliadau 4 a 5).
Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn –
(a)yn tynnu Ynysoedd Shetland o'r trefniadau penodol ar gyfer cwota llaeth sy'n gymwys yn ardal Ynysoedd yr Alban (rheoliad 3);
(b)yn cynnwys yn y dosbarthiadau o bersonau y mae'n ofynnol iddynt roi cymorth rhesymol i swyddogion awdurdodedig, gynhyrchwyr, prynwyr, cyflogeion ac asiantau cynhyrchwyr neu brynwyr, cludwyr llaeth a phersonau sy'n ymgymryd â phrofion braster menyn mewn labordai ar gyfer prynwyr ac yn unioni'r rhain â'r tir ac adeiladau y gellir defnyddio pwêr myndediad i fynd i fewn iddynt (rheoliad 7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: