2000 Rhif 908 (Cy. 39 )
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, ac a freiniwyd ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliadau2.

(1)

Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 19893 yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2)

Ym mharagraff (1A), ar ôl “1st April 1995”, mewnosoder “or 1st April 2000”.

(3)

Ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), ar ôl “in the case of”, mewnsoder “a defence hereditament,”.

(4)

Ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “the appropriate rate”, mewnsoder ““defence hereditament” means a hereditament which is occupied (or if unoccupied, owned) by the Secretary of State for Defence”;

(5)

Ym mharagraff (3), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “educational hereditament” —

(a)

yn lle “section 41 of the Education Act 1944 as read with section 14 of the Further and Higher Education Act 1992 (“the 1992 Act”)”, rhodder “section 2 of the Education Act 1996 (“the 1996 Act”)”;

(b)

ar ôl “the Education Reform Act 1988”, mewnosoder “(“the 1988 Act”)”; ac

(c)

yn is-baragraff (ii), yn lle “the 1992 Act”, rhodder “the Further and Higher Education Act 1992 (“the 1992 Act”)”.

(6)

Ym mharagraff (3), yn y diffiniad o “school”, yn lle “section 114(1) of the 1944 Act”, rhodder “section 4 of the 1996 Act”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.4
D Ekis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i werth ardrethol hereditament annomestig gael ei ganfod drwy gyfeirio at y rhent yr amcangyfrifir y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl wrth osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.

Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 yn darparu ar gyfer prisio drwy gyfeirio at gost dybiannol adeiladu hereditament (“sail y contractiwr”), lle nad oes dystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, ac yn pennu'r gyfradd ganrannol flynyddol sydd i'w chymhwyso at y gost adeiladu dybiannol.

Mae paragraff (1A) o Reoliad 2 yn cymhwyso'r gyfradd benodedig at hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig a luniwyd ar 1 Ebrill 1995 ac mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cymhwysiad hwnnw i hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig Cymru sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2000.

Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu “defence hereditament” (fel y'i ddiffinnir) i'r mathau o hereditament y pennir ym mharagraff (2A) (b) o Reoliad 2 ac yn diwygio'r diffiniadau o “educational hereditament” a “school” yn sgil Deddf Addysg 1996.