- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989(3) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1A), ar ôl “1st April 1995”, mewnosoder “or 1st April 2000”.
(3) Ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), ar ôl “in the case of”, mewnsoder “a defence hereditament,”.
(4) Ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “the appropriate rate”, mewnsoder ““defence hereditament” means a hereditament which is occupied (or if unoccupied, owned) by the Secretary of State for Defence”;
(5) Ym mharagraff (3), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “educational hereditament” —
(a)yn lle “section 41 of the Education Act 1944 as read with section 14 of the Further and Higher Education Act 1992 (“the 1992 Act”)”, rhodder “section 2 of the Education Act 1996 (“the 1996 Act”)”;
(b)ar ôl “the Education Reform Act 1988”, mewnosoder “(“the 1988 Act”)”; ac
(c)yn is-baragraff (ii), yn lle “the 1992 Act”, rhodder “the Further and Higher Education Act 1992 (“the 1992 Act”)”.
(6) Ym mharagraff (3), yn y diffiniad o “school”, yn lle “section 114(1) of the 1944 Act”, rhodder “section 4 of the 1996 Act”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(4)
D Ekis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i werth ardrethol hereditament annomestig gael ei ganfod drwy gyfeirio at y rhent yr amcangyfrifir y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl wrth osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 yn darparu ar gyfer prisio drwy gyfeirio at gost dybiannol adeiladu hereditament (“sail y contractiwr”), lle nad oes dystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, ac yn pennu'r gyfradd ganrannol flynyddol sydd i'w chymhwyso at y gost adeiladu dybiannol.
Mae paragraff (1A) o Reoliad 2 yn cymhwyso'r gyfradd benodedig at hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig a luniwyd ar 1 Ebrill 1995 ac mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cymhwysiad hwnnw i hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig Cymru sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2000.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu “defence hereditament” (fel y'i ddiffinnir) i'r mathau o hereditament y pennir ym mharagraff (2A) (b) o Reoliad 2 ac yn diwygio'r diffiniadau o “educational hereditament” a “school” yn sgil Deddf Addysg 1996.
1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) ar gyfer y diffiniad o “prescribed”.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1989/2303, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/544 ac O.S. 1994/3122.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: