Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog y fath wariant er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 1999. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.

Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymhwyso. Daw'r rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2000 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy.

Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio.

Mae Rheoliad 9 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â hwy os ydynt wedi derbyn grantiau.

Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol.

Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdod addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion.

Mae Rheoliad 12 yn diddymu Rheoliadau cynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol.

Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae paragraffau 1(a), (f),5,19 a 22 wedi'u diwygio ac mae paragraffau 1(k) a 35 yn newydd.