(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu ynglŷn â chynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei darparu i adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaethau perthnasol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod hereditamentau sy'n ddarostyngedig i ardrethi annomestig yn cael eu hailbrisio yn 2000.